Llyn Llanwddyn

argae ym Mhowys sy'n cyflenwi dwr i Lerpwl

Cronfa ddŵr yw Llyn Llanwddyn neu Llyn Efyrnwy, y gronfa gyntaf i'w chreu yng Nghymru i gyflenwi dŵr i Loegr. Adeiladwyd yr argae rhwng 1881 a 1888 gan Gorfforaeth Dinas Lerpwl, a oedd yn gweld yr angen am gronfa i sicrhau cyflenwad dŵr digonol i'w dinasyddion. Drwy godi'r argae i ffrwyno nifer o afonydd a nentydd yn Nyffryn Efyrnwy, fe foddwyd hen bentref Llanwddyn. Cynhaliwyd yr agoriad swyddogol ar 14 Gorffennaf 1892.

Llyn Llanwddyn
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymru, Powys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.78°N 3.5°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganHafren Dyfrdwy Edit this on Wikidata
Map

Llanwddyn

golygu

Roedd pentref Llanwddyn, ym mhen uchaf Dyffryn Efyrnwy yn bentref gweddol ei faint ac yn eithaf nodweddiadol o bentrefi'r cyfnod. Parhaodd pobl y pentref i fyw yno wrth i'r argae gael ei baratoi gan Gorfforaeth Lerpwl. Codwyd pentref newydd (a gadwodd yr enw Llanwddyn) yn is i lawr y dyffryn yn gartref newydd i'r pentrefwyr. Pan gwblhawyd yr argae, collwyd dau gapel, tair tafarn, deg ffermdy, a 37 o dai o dan y dŵr. Mae olion rhai o'r adeiladau i'w gweld o hyd ar dywydd sych.

Yr argae

golygu

Roedd yr argae ei hun yn uchelgeisiol iawn yn ei oes, ac fe gymerodd saith mlynedd i'w godi fel y nodwyd eisoes. Hwn oedd yr argae carreg cyntaf yng ngwledydd Prydain, wedi'i adeiladu â thalpiau mawr o lechen Cymru. Costiodd £620,000 i'w godi, tua £22,000,000 yn arian heddiw.

Y gronfa ddŵr

golygu

Mae'r gronfa ei hun yn enfawr; hi oedd y fwyaf yn Ewrop pan gafodd ei chodi. Pan fo'n llawn mae'n dal 59,666 megalitr o ddŵr (13,000,000 o alwyni), ac mae ei harwynebedd yn 1,121 o erwau, yn gymaint â chwe chant o gaeau pêl-droed. Mae 31 o nentydd, rhaeadrau ac afonydd yn rhedeg i'r gronfa i gyd. Enwir y chwe afon isod:

  • Afon Hirddu
  • Eunant
  • Afon Eiddew
  • Afon Naedroedd
  • Afon Cedig
  • Afon y Dolau Gwynion

Heddiw

golygu

Erbyn hyn mae Llyn Llanwddyn a'r ardal o'i gwmpas yn fangre hardd sy'n gartref i adar prin o dan ofalaeth yr RSPB, ac yn gyrchfan ar gyfer gweithgareddau agored gan gynnwys hwylio, dringo creigiau a seiclo. Fodd bynnag, fe'i cofir hefyd gan lawer o Gymry fel y cyntaf o nifer o ymosodiadau cynyddol ddadleuol ar dir a daear Cymru i sicrhau cyflenwad dŵr i ddinasoedd Lloegr.

 
Pentref Llanwddyn yn union cyn ei foddi ym 1888