Hafren Dyfrdwy
Cwmni cyflenwi dŵr i ardal Wrecsam a rhannau eraill o ogledd-ddwyrain Cymru a rhannau o ogledd-orllewin Lloegr yw Hafren Dyfrdwy (hen enw: Dŵr dyffryn Dyfrdwy). Mae'n un o isgwmniau 'Severn Trent' a'r 'Dee Valley Group PLC' sy'dd wedi'i gofrestru ar y FTSE Fledgling Index ar Gyfnewidfa Stoc Llundain.
Math | busnes, cwmni cyfyngedig a gyfyngwyd gan gyfranddaliadau |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys, Wrecsam |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Perchnogaeth | Severn Trent |
Rheoleiddir y cwmni dan Ddeddf Dŵr Diwydiannol 1991.
Hanes
golyguEnw gwreiddiol y cwmni oedd 'Cwmni Gwaith Dŵr Wrecsam' pan ffurfiwyd ef yn 1863, gyda chyfalaf o £15,000, gyda'r bwriad o gyflenwi dŵr i'r dref o ffrwd Pentrebychan. Roedd y gwaith yn cynnwys argae, pibell a gwaith hidlo yn Packsaddle, Rhostyllen.
Yn 1882 newidiwyd enw'r cwmni i The Wrexham & East Denbighshire Water Company, gyda'i swyddfa yn 21 Stryt Egerton, Wrecsam. Suddwyd dyfrdwll Talwrn ac adeiladwyd tŷ hidlo Legacy i drin y dŵr a lifodd o gronfeydd dŵr Tŷ Mawr a Chae Llwyd.