Llanwddyn

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref bychan ym Maldwyn, Powys, yw Llanwddyn ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Gorwedd ar lan ogleddol afon Efyrnwy ger yr argae ar gronfa dŵr Llyn Efyrnwy. Tua hanner milltir i'r dwyrain o Llanwddyn ceir pentref Abertridwr.

Llanwddyn
Math pentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.78476°N 3.49659°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000321 Edit this on Wikidata
Coed ger yr argae

Enwir plwyf Llanwddyn ar ôl Wddyn. Yn ôl traddodiad roedd y sant hwn, sydd fel arall yn anhysbys, yn feudwy a sefydlodd gell yno ac a ymwelai â chell y Santes Melangell dros y bryniau i'r gogledd ym Mhennant Melangell.[1]

Eglwys Sant Wddyn, a adleolwyd pan foddwyd y dyffryn.
Tarw dur, tractor a sled yn dosbarthu bara i bentre Llanwddyn yn ystod yr eira.
Telor y coed, Llyn Efyrnwy

Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yn berchennog i’r tir o gwmpas Llyn Efyrnwy, ac mae ganddynt 3 cuddfan; 2 ar lannau’r llyn ac un, Coed y Capel, ger yr argae. Mae ganddynt hefyd swyddfa a siop gyferbyn â’r gyddfan Coed y Capel.[2]

Cynhelir Gŵyl Werin Llanwddyn yn neuadd y pentref Llanwddyn bob mis Medi.[3]

Hanes Llyn EfyrnwyGolygu

 
Adeiladu'r argae tua diwedd y 19g.

Pasiwyd Deddf Liverpool Corporation Waterworks ym 1880, a dechreuwyd gwaith adeiladu argae ym 1881. Dymchwelwyd hen bentref Llanwddyn, ac roedd y llyn yn llawn erbyn Tachwedd 1889.

 
Lake Vyrnwy Hotel, Llanwddyn

. Adeiladwyd pentref newydd gerllaw ar gyfer preswylwyr yr hen bentref, gan gynnwys eglwys newydd, cysegredig i Sant Wddyn. Adeiladwyd gorsaf pŵer hydro-electrig ar gyfer y pentref ym 1902.


Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanwddyn (pob oed) (257)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanwddyn) (96)
  
38.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanwddyn) (84)
  
32.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanwddyn) (18)
  
18.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

CyfeiriadauGolygu

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2001).
  2. Gwefan RSPB
  3. Gwefan llanwddynevents.co.uk
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Nodyn:CominCat:Llawddyn