Llyn Maelog
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru
Mae Llyn Maelog yn llyn 59 acer o arwynebedd ger arfordir gorllewinol Ynys Môn, rhwng Rhosneigr a Llanfaelog. Nid oes afon o unrhyw faint yn llifo i mewn iddo.
Math | llyn, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 59 acre, 36.1 ha |
Cyfesurynnau | 53.227888°N 4.508675°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Mae'r llyn yn agos i'r môr, ac ar un adeg roedd diwydiant adeiladu llongau bychain ar ei lannau; er enghraifft cofnodir adeiladu slŵp 11 tunnell o'r enw Old Fisher yma yn 1787. Roedd sianel wedi ei dorri ar ochr orllewinol y llyn i gael y llongau i'r môr, ond erbyn hyn mae'r briffordd i Rosneigr rhwng y llyn a'r môr. Hyd 1968 roedd y llyn yn cyflenwi dŵr i bentref Rhosneigr.
Erbyn hyn defnyddir y llyn yn bennaf gan bysgotwyr, sy'n dal amrywiaeth o rywogaethau yn cynnwys Penhwyad. Mae hefyd yn fan dda i wylio adar. Gellir dilyn llwybr cyhoeddus o'r briffordd o amgylch y llyn.