Rhosneigr

pentref ar Ynys Môn

Pentref yng nghymuned Llanfaelog, Ynys Môn, yw Rhosneigr[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar arfordir gorllewinol yr ynys, ar briffordd yr A4080. O'r cloc yng nghanol y pentref gellir gweld RAF Y Fali a Mynydd Twr. Mae prif drefi Caergybi a Llangefni a dinas Bangor i gyd o fewn pellter teithio hawdd. Dyma’r lle drutaf i fyw ym Môn o ran prisiau tai.

Rhosneigr
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanfaelog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2278°N 4.5189°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH319730 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae traeth bychan gerllaw'r pentref ei hun, a dau draeth mwy, Traeth Cymyran a Thraeth Llydan, gerllaw. Ceir gorsaf reilffordd yno, yn ogystal â nifer o westai a thai bwyta. Twristiaeth yw'r prif ddiwydiant, er fod rhai o'r trigolion yn gweithio ym maes awyr Y Fali gerllaw, i sawl corff arall ac yn hunan-gyflogedig. Mae Llyn Maelog gerllaw a Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn rhedeg heibio'r pentref. Mae Llyn Maelog tua 65 erw i gyd.

Mae Ysgol Gynradd yn Rhosneigr. Mae gweithgareddau hamdden yn cynnwys: nofio, syrffio, hwylfyrddio, sgio dwr, golff, tenis a deifio dan y dwr. Mae'n pentref yn gartref i Glwb Golff Ynys Môn.

Etymoleg golygu

Mae'r enw Rhosneigr yn tarddu o'r Gymraeg. Mae Rhos yn rhagddodiad cyffredin mewn enwau lleoedd Cymraeg, sy'n golygu 'rhos' neu 'rhostir'. Mae ail ran yr enw neigr, yn llai eglur, ond mae'n debyg ei fod yn deillio o'r enw personol 'Yneigr'. Roedd Yneigr yn ŵyr i Cunedda Wledig, arweinydd pwysig yn yr ardal yn y bumed ganrif. Ychydig a wyddys am Yneigr, na sut y daeth y pentref i gael ei enwi er anrhydedd iddo. [3]

Mae ganddo dri phrif draeth:

  • Traeth Cymyran sy'n ymestyn o Bwll Cwch at Ynys Wellt. Traeth tywodlyd gyda gologfeydd o'r Wyddfa. Mae hi'n draeth poblogaidd gyda chwmniau chwareon dwr, yn enwedig morwyr a hwylfyrddwyr.
  • Pwll Cwch - traeth fechan, creigiog lle mae cychod yn aros dros nos.
  • Traeth Llydan (Silver Bay) - i'r de o Rhosneigr mae Traeth Llydan. Mae'r traeth tywodlyd gyda thwyni tywod a nant sydd yn rhedeg o Lyn Maelog i rannu'r traeth.

Mae'r traeth yn berffaith i gerdded, syrffio a chanwio. Mae'r traeth yn enillydd Gwobr Arfordir Gwyrdd yn rheolaidd.

Mae gan Rhosneigir llawer o llefydd bwyta fel Aydin's Cafe & Take Away Pizza, The Surf Cafe, Scarlett’s Fish & Chip Shop a mwy.

Bu'r pentref yn boblogaidd yn ystod yr oes Edwardaidd, ac mae'n dal i fod yn bentref glan môr poblogaidd mewn un o lefydd harddaf Ynys Môn, yng ngogledd Cymru.

Cadwraeth golygu

Mae Arfordir Rhosneigr wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae Llyn Maelog yn cynnwys pysgod fel draenogiaid, merfogiaid, rhufelliaid a phenhwyaid. Mae amrywiaeth eang o adar yn byw yn y gwelyau cyrs. Crehyrod llwyd, gïach, telor y cyrs, cwtieir, hwyaden wyllt, hwyaid yr eithin ac ati. Mae gwylanod penddu yn nythu yno hefyd. Mae llwybr cyhoeddus o amgylch y llyn ac mae'n boblogaidd gyda cherddwyr. Dyma'r llyn cyntaf yn 2011 yng Nghymru i gael ei ddosbarthu fel village green.

Galeri golygu

Rhosneigr
 
'Diving Rock',ar ochr chwith y ddelwedd, a ddefnyddir yn aml i neidio i'r môr ar lanw uchel
'Diving Rock',ar ochr chwith y ddelwedd, a ddefnyddir yn aml i neidio i'r môr ar lanw uchel 
 
Awel-Y-Môr Road
Awel-Y-Môr Road 
 
Gorsaf Rheilffordd Rhosneigr
Gorsaf Rheilffordd Rhosneigr 
 
Cofeb Rhyfel Rhosneigr
Cofeb Rhyfel Rhosneigr 
 
Rhosneigr, tynnwyd o Fraich Parlwr
Rhosneigr, tynnwyd o Fraich Parlwr 
 
Llyn Maelog
Llyn Maelog 
 
Beach Road, yn arwain at y traeth
Beach Road, yn arwain at y traeth 
 
Porth Crigyll Estate – tai haf yn bennaf - wedi eu hadeiladu ar hen safle Gwesty'r Bay Hotel
Porth Crigyll Estate – tai haf yn bennaf - wedi eu hadeiladu ar hen safle Gwesty'r Bay Hotel 

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021
  3. Jones, Gwilym; Roberts, Tomos (1996). Enwau Lleoedd Môn : The Place-Names of Anglesey. Bangor, Wales: University of Wales Press. t. 124. ISBN 0-904567-71-0.

Dolenni allanol golygu