Llyn Nadroedd
Llyn yn Eryri, Gwynedd, yw Llyn Nadroedd. Fe'i lleolir yng Nghwm Clogwyn yn uchel ar lethrau gorllewinol Yr Wyddfa tua milltir i'r gorllewin o'r copa.[1] Llyn bychan ydyw, 1,741 troedfedd i fyny.[2]
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Yr Wyddfa |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 1,741 troedfedd |
Gerllaw | Afon Treweunydd |
Cyfesurynnau | 53.067477°N 4.098116°W |
Mae'n llyn bychan gyda dŵr tywyll a dwfn. Mae'r tir o'i gwmpas yn gorsiog ac mae glan y llyn yn greigiog. Ymddengys nad oes pysgod ynddo.[2]
Llifa ffrwd o ben gogleddol y llyn i lifo i lawr i Afon Treweunydd sy'n llifo wedyn i Llyn Cwellyn. Tua chwarter milltir i'r dwyrain o Lyn Nadroedd ceir llyn bychan arall, sef Llyn Coch.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 115 Caernarfon a Bangor.
- ↑ 2.0 2.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931), tud. 176.