Llyn Cwellyn
llyn
Mae Llyn Cwellyn yn llyn yn Eryri, gogledd Cymru, sy'n gorwedd rhwng Yr Wyddfa yn y de a Mynydd Mawr yn y gogledd, a rhwng pentrefi Rhyd-ddu a Betws Garmon gerllaw ffordd yr A4085. Er ei fod yn wreiddiol yn llyn naturiol, caiff ei ddefnyddio fel cronfa i gyflenwi dŵr i rannau o Wynedd ac Ynys Môn.
| |
Math |
llyn ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Gwynedd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.0722°N 4.1517°W ![]() |
![]() | |
Mae Llyn Cwellyn yn llyn gweddol fawr gydag arwynebedd o 215 erw (0.87 cilometr sgwar), ac mae dros 120 troedfedd o ddyfnder yn y man dyfnaf. Mae mapiau Arolwg Ordnans yn dangos dyfnder y dŵr yn y llyn [1]. Mae Afon Gwyrfai yn llifo trwyddo. Adeiladwyd argae yn y rhan ogleddol, ond nid yw hyn wedi ychwanegu rhyw lawer at faint y llyn. Ymhlith y pysgod a geir yn y llyn mae'r Torgoch.
LlyfryddiaethGolygu
- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)