Llyn yn ne Gwynedd yw Llyn Pryfed. Fe'i lleolir yn ardal Ardudwy ym Meirionnydd, tua hanner ffordd rhwng Trawsfynydd i'r dwyrain a Harlech i'r gorllewin.

Llyn Pryfed
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1,789 troedfedd Edit this on Wikidata
GerllawLlyn Twr Glas Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.869321°N 3.984546°W Edit this on Wikidata
Map

Saif y llyn bychan hwn 1,789 troedfedd[1] i fyny yn agos iawn i gopa Craig Wion yn y Rhinogydd, rhwng Rhinog Fawr a Moel Ysgyfarnogod yn rhan ogleddol y mynyddoedd hynny.[2]

Mae'n llyn anghysbell iawn, mewn pant creigiog ger copa Craig Wion. Ceir llyn bychan arall, sef Llyn Twrglas (neu Lyn Tŵr Glas), ychydig i'r gogledd.

Ceir brithyll yn y llyn. Adroddir fod hen bysgotwr a holwyd ganol y 19g yn cofio dal brithyll o hyd at 4 pwys yno.[1]

Geirdarddiad

golygu

Mae'n bosib fod yr enw 'Pryfed' yma'n hen iawn, ac yn cyfeirio at bob math o greaduriaid ymlusgol a gwyllt; er enghraifft, yr hen enw ar yr ysgyfarnog oedd 'y pry mawr' a cheir 'pry genwair', wrth gwrs.[3] Cyfeiria Thomas Pennant at 'Lyn Nadroedd yn nwyrain y Rhinog' hefyd yn y 18g, na wyddys ym mhle mae, bellach. Yn ôl yr Athro Aled Gruffydd Jones, mae'n bosib fod Pennant yn cyfeirio at Lyn Pryfed.[4]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).
  2. Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.
  3.  pryf. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 11 Awst 2022.
  4. twitter.com; trydariad gan Aled Gruffydd Jones; 13 Awst 2019.