Llyn Nantycagl

llyn yng Ngheredigion

Llyn yng ngogledd Ceredigion yw Llyn Nantycagl[1] (amrywiad Llyn Nant-y-gagl[2]; hefyd "Pwll Spencer" yn lleol[2]). Fe'i lleolir yn y bryniau tua 4 milltir i'r dwyrain o Dre Taliesin.

Llyn Nantycagl
Mathllyn, cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.496974°N 3.872593°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN730000904000 Edit this on Wikidata
Rheolir ganClwb Pysgota Tal-y-Bont Edit this on Wikidata
Map

Saif y llyn bychan hwn 1,350 troedfedd i fyny[2] ar gwr un o goedwigoedd y Comisiwn Coedwigaeth 4 milltir i'r gorllewin o gopa Pumlumon rhwng bryniau Castell a Bryn Mawr. Llifa ffrwd o ben deheuol y llyn i lifo am 2 filltir i gronfa dŵr Nant-y-moch.[1]

Ceir brithyll yn y llyn.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Landranger 135 Aberystwyth.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).