Llyn y Fign
llyn yn ne Gwynedd
Llyn yn ne Gwynedd yw Llyn y Fign. Fe'i lleolir yng nghymuned Mawddwy tua 4 milltir i'r gogledd-orllewin o bentref Dinas Mawddwy. Mae'n un o'r llynnoedd uchaf yng Nghymru.
Llyn y Fign yn y gaeaf, o ben Glasgwm | |
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.759216°N 3.725474°W |
Saif y llyn bychan hwn 2,500 troedfedd[1] i fyny yn agos i gopa Craig y Ffynnon ar fynydd Glasgwm, un o gopaon deheuol cadwyn Aran Fawddwy. Mae'n llyn bas iawn, tua troedfedd o ddyfnder yn unig, heb bysgod ynddo.[1]
Llifa Nant y Gerrig-wen o ben deheuol y llyn i lifo i Afon Cerist sy'n llifo wedyn i Afon Dyfi.[2]
-
Glasgwm a Llyn y Fign gan Erwyn Jones
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).
- ↑ Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.