Afon Cerist
Afon yn ne Gwynedd, Cymru, yw Afon Cerist. Mae'n un o isafonydd Afon Dyfi. Mae ganddi hyd tua 5 milltir.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.7°N 3.7°W |
Lleolir prif darddle Afon Cerist yn Llyn y Fign, dan glogwyni Glasgwm i'r de o Aran Fawddwy ym Meirionnydd. Mae'n llifo o'r llyn i gyfeiriad y de fel ffrwd Nant y Gerrig-wen a thrwy goedwig y Comisiwn Coedwigaeth. Ceir rhaeadrau yno.[1]
Mae ail darddle Afon Cerist mewn cwm uchel dan glogwynni Maesglasau, un o fryniau dwyreiniol cadwyn estynedig Cadair Idris. Llifa sawl ffrwd arall iddi yn cynnwys un o lethrau Bwlch yr Oerddrws. Llifa wedyn ger y briffordd A470.[1]
Mae'r ddwy ffrwd yn ymuno ger Pont buarth-glas. Llifa'r afon i gyfeiriad y dwyrain am weddill ei thaith gyda'r A470 yn ei dilyn. Ychydig i'r gogledd o bentref Dinas Mawddwy mae'r afon yn llifo i Afon Dyfi.[1]