Llyn y Gadair, Rhyd Ddu

llyn ger Rhyd Ddu, Gwynedd, Cymru

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn y Gadair. Saif wrth ochr y briffordd A4085 fymryn i'r de o bentref Rhyd Ddu. I'r gorllewin mae Mynydd Drws y Coed ac Y Garn. Mae arwynebedd y llyn yn 50 acer a saif 598 troedfedd uwch lefel y môr; mae Afon Gwyrfai yn tarddu ohono.

Llyn y Gadair
Llyn y Gadair (chwith) gyda llyn y Dywarchen (de). Gwelir Moel Eilio yn y cefndir.
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd0.1868 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr185 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.046795°N 4.136693°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH707135 Edit this on Wikidata
Map

Yn ôl John Leland yn y 16g, yr enw gwreiddiol oedd "Llyn Cadair yr Aur Frychin". Enwogwyd y llyn gan y bardd T. H. Parry-Williams, a fagwyd yn Nhŷ'r Ysgol heb fod ymhell o'r llyn, yn ei soned Llyn y Gadair. Mae'r adeilad hwnnw yn awr yn ganolfan awyr agored yn perthyn i Gyngor Gwynedd.

Ni wêl y teithiwr talog mono bron
Wrth edrych dros ei fasddwr ar y wlad.
Mae mwy o harddwch ym mynyddoedd hon
Nag mewn rhyw ddarn o lyn, heb ddim ond bad
Pysgotwr unig, sydd yn chwipio'r dŵr
A rhwyfo plwc yn awr ac yn y man,
Fel adyn ar gyfeilorn, neu fel gŵr
Ar ddyfroedd hunlle'n methu cyrraedd glan.
Ond mae rhyw ddewin â dieflig hud
Yn gwneuthur gweld ei wyneb i mi'n nef,
Er nad oes dim gogoniant yn ei bryd,
Na godidowgrwydd ar ei lannau ef –
Dim byd ond mawnog a'i boncyffion brau,
Dau glogwyn, a dwy chwarel wedi cau.

Llyfryddiaeth golygu

  • Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Gwasg Carreg Gwalch, 1995)