Fflyd o longau dan hebryngiad llongau arfog yw llynges osgordd, llynges warchod, confoi môr, neu hebrynglu môr. Prif bwrpas llynges o'r fath ydy diogelu ac amddiffyn masnachlongwyr a'u cargo ar y môr rhag ymosodiad neu ysbeiliad gan longau rhyfel, llongau tanfor, awyrennau milwrol, a morluoedd y gelyn, yn ogystal â môr-ladron. terfysgwyr, a bygythiadau anwladwriaethol eraill. Ffurfir hefyd llyngesau gosgordd at ddibenion anfasnachol, gan gynnwys cyd-deithio â llongau anymosodol y llynges, megis cludydd awyrennau, llong filwyr, neu long logisteg, ac mewn ymarferiadau milwrol; gwarchod llongau ar genhadaeth ddiplomyddol neu orchwyl gwladwriaethol; hebrwng alldeithiau gwyddonol neu ddaearyddol; ac i ddanfon cymorth dyngarol i fannau sy'n dioddef trychineb naturiol, gwrthdaro, neu argyfwng arall. Defnyddir llyngesau gosgordd yn enwedig yn ystod amser rhyfel neu mewn dyfroedd anniogel. Mae presenoldeb y llongau gwarchod, fel rheol llongau rhyfel megis llongau distryw, yn rhwystro bygythiadau rhag targedu'r llongau masnachol, ac maent yn barod i'w hamddiffyn trwy rym milwrol os na atelir aflonyddwch yn gyfan gwbl.

Llynges osgordd
HMS Ark Royal (R07), cludydd awyrennau ysgafn ac hen fanerlong y Llynges Frenhinol, ar flaen llynges osgordd yn ystod ymarferiad milwrol yng Nghulfor Moyle, rhwng Swydd Antrim a gorynys Kintyre, yn 2008. Fe'i dilynir gan HMS Somerset, HMS Gloucester, ac HMS Bulwark (o'r chwith i'r dde).
Mathgrŵp, cludiant, teithio Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ffurfiwyd llyngesau gosgordd ar gyfer llongau masnach yn gyntaf yn yr Oesoedd Canol mewn ymateb i dwf môr-ladrad ac herwlongwriaeth. Yn ystod Oes yr Hwylio, honnai "hawl confoi" gan y pwerau niwtral, sef breinryddid rhag chwilio llongau masnachol o wlad niwtral sydd dan hebryngiad llongau rhyfel y wlad honno. Cydnabuwyd yr hawl hon erbyn 19g gan lyngesau Unol Daleithiau America, Awstria, a Ffrainc, ond nid gan y Llynges Frenhinol nes i Brydain ymgynghreirio â Ffrainc yn Rhyfel y Crimea (1853–56). Cydnabyddir hawl confoi yn ffurfiol gan Ddatganiad Llundain (1909), ond yn y diwedd ni ddaeth y cynnig hwnnw i gyfraith y môr i rym.[1]

Bu llyngesau gosgordd yn bwysig iawn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18) a'r Ail Ryfel Byd (1939–45).

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Convoy (naval operations). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Hydref 2023.