Ymladdwyd Rhyfel y Crimea o Hydref 1853 hyd at Chwefror 1856)[1][2] rhwng Ymerodraeth Rwsia a chynghrair o wledydd gan gynnwys Ail Ymerodraeth Ffrainc, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Ymerodraeth yr Otomaniaid a Brenhiniaeth Sardinia. Ymunodd Prydain a Ffrainc yn y rhyfel ar 27 Mawrth, 1854. Roedd Ymerodraeth Awstria yn niwtral, ond chwaraeodd ran blaenllaw a dylanwadol yn y rhyfel. Mae llyfrau hanes yn nodi mai'r gynghrair a "enillodd" y rhyfel.

Manylun o beintiad olew Franz Roubaud Gwarchae Sevastopol (1854–55) (1904)

Newidiwyd y rhan hon o Ewrop gan y rhyfel oherwydd symud pobloedd, sefydlu mudiadau cenedlaetholgar a thrwy greu ffiniau i wledydd megis Wcráin, Moldofa, Bwlgaria, Romania, Gwlad Groeg, Twrci, Aserbaijan, Armenia, Georgia, a mannau fel Penrhyn y Crimea a'r Cawcasws.[3]

Gellir clolriannu Rhyfel Crimea mewn un gair: "methiant" - o ran meddygaeth, tachteg brwydro a'r niferoedd a laddwyd, ond i'r Gynghrair, llwyddiant oedd y cyfan - yn enwedig gan iddynt lwyddo i ddifetha bron y cyfan o lynges Rwsia a chynnal gwarchae forwrol yn y Môr Baltig. Mae rhai'n ei alw y rhyfel "modern" cyntaf oherwydd y defnydd o dechnoleg newydd ac effeithiol: y rheilffyrdd a'r teligraff.[4] Serenodd Betsi Cadwaladr, Florence Nightingale a Mary Seacole, drwy dorri dir newydd yn eu gofal o gleifio. Am y tro cyntaf yn hanes rhyfeloedd, cofnodir llawer ohono mewn ffotograffau a chofnodion eraill.

Cymru a'r rhyfel golygu

Cafwyd brwydrau mawr yn Alma (20 Hydref, 1854), Balaclava (25 Hydref ac Inkerman (5 Tachwedd) gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a'r Gatrawd Gymreig yn allweddol ynddynt.

Yng Nghymru enynnodd y rhyfel ddiddordeb mawr, a cynyddodd gwerthiant papurau newydd. Gwelwyd llawer o heddychwyr a chydwladolwyr fel Henry Richard yn gwrthwynebu'r rhyfel. Newidiwyd enw bwlch i'r gogledd o Flaenau Ffestiniog o 'Fwlch y Gerddinen' i 'Fwlch y Crimeia' i gofio'r rhyfel, ffordd a adeiladwyd yn y 1950au.

Cyfeiriadau golygu

  1. Kinglake (1863:354)
  2. Sweetman, John (2001). Crimean War, Essential Histories 2. Osprey. ISBN 1-84176-186-9.
  3. Kozelsky, Mara (2012). "The Crimean War, 1853–56". Kritika 13 (4). http://www.questia.com/library/1G1-319613789/the-crimean-war-1853-56.
  4. Royle, Trevor (2000). Crimea: The Great Crimean War, 1854–1856. Palgrave Macmillan. ISBN 1-4039-6416-5.

Gweler hefyd golygu