Llythyrau 'Rhen Ffarmwr
Casgliad o lythyrau gan William Rees (Gwilym Hiraethog) yw Llythyrau 'Rhen Ffarmwr. Cyhoeddwyd y llythyrau ym mhapur newydd Yr Amserau o 1846 ymlaen, ac mewn papurau newydd eraill ar ôl diwedd y papur newydd hwnnw ym 1859. Ysgrifennir y llythyrau yn nhafodiaith Sir Ddinbych mewn arddull blaen dan enw 'Yr Hen Ffarmwr'. Maen nhw'n mynegi barn synnwyr cyffredin am nifer o bynciau llosg y dydd. Yn wleidyddol mae'r llythrau yn cefnogi achos y Rhyddfrydwyr ac achos y tenantiaid yn erbyn y meistri tir. Maen nhw'n beirniadu ceisiadau i ailgyflwyno Treth yr Ŷd yn llym, ac yn mynegi anfodlonrwydd Anghydffurfwyr â'r degymau a dalwyd i Eglwys Loegr.
Enghraifft o: | casgliad, gwaith ysgrifenedig ![]() |
---|---|
Awdur | William Rees ![]() |
Casglwyd detholiad o'r llythyrau a ymddangosodd yn Yr Amserau at ei gilydd mewn un gyfrol wedi'i golygu gan Isaac Foulkes ym 1878. Cyhoeddwyd detholiad arall gan E. Morgan Humphreys ym 1939.
Llyfryddiaeth
golyguLlythyrau 'Rhen Ffarmwr, gol. E. Morgan Humphreys (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1939).