Yr Amserau
Papur newydd Cymraeg a gyhoeddwyd rhwng 1843 a 1859 oedd Yr Amserau. Fe'i sylfaenwyd gan John Jones (1790-1855)[1] a William Rees (Gwilym Hiraethog). Roedd Jones yn ariannu'r prosiect, tra bod Rees yn gweithredu fel golygydd di-dâl. Cyhoeddwyd y papur yn Ninbych.
Enghraifft o'r canlynol | papur newydd |
---|---|
Golygydd | William Rees, John Roberts |
Cyhoeddwr | John Jones, Michael James Whitty, John Lloyd |
Rhan o | Papurau Newydd Cymreig Ar-lein |
Dyddiad cyhoeddi | 24 Awst 1843 |
Dechrau/Sefydlu | 1843 |
Lleoliad cyhoeddi | Lerpwl |
Perchennog | Thomas Gee, John Lloyd |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Sylfaenydd | William Rees, John Jones |
Olynydd | Y Faner |
Ymddangosodd y rhifyn cyntaf ar 23 Awst 1843, a bob yn ail wythnos wedyn. Ei bris oedd tair ceiniog a dimai. Roedd y papur newydd yn brwydro am gefnogaeth o'r dechrau, ond roedd yn ennill mwy o ddarllenwyr ar ôl 1846, pryd y dechreuodd gyflwyno Llythyrau 'Rhen Ffarmwr, cyfres o lythyrau 'synnwyr cyffredin' ar bynciau gwleidyddol. Yn olygyddol, cefnogai'r papur hawliau Anghydffurfiaeth a Radicaliaeth yng Nghymru. Gwilym Hiraethog oedd y golygydd ar y dechrau, a phenodwyd John Roberts (Ieuan Gwyllt) i'w olynu yn 1852. Unwyd Yr Amserau â Baner Cymru ym 1859, ar ôl iddo gael ei brynu gan y cyhoeddwr Thomas Gee ar ddechrau Hydref yn y flwyddyn honno, i greu Baner ac Amserau Cymru, hefyd dan olygiaeth Rees.
Llyfryddiaeth
golygu- T. M. Jones, Llenyddiaeth fy Nghwlad (Treffynnon, 1893)
- Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1986)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ E. Wyn James, ‘“Llawn Llafur yw Llynlleifiad”: Cyfrolau Pedr Fardd a’u Hargraffwyr’, yn Dyddiau o Lawen Chwedl, gol. John Gwynfor Jones (Lerpwl: Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 2014), tt.163-70.