Edward Morgan Humphreys

newyddiadurwr, llenor a darlledwr
(Ailgyfeiriad o E. Morgan Humphreys)

Newyddiadurwr a nofelydd oedd Edward Morgan Humphreys (14 Mai 188211 Mehefin 1955), yn frodor o Ddyffryn Ardudwy, Meirionnydd (Gwynedd). "Celt" oedd ei lysenw adnabyddus.

Edward Morgan Humphreys
Ganwyd14 Mai 1882 Edit this on Wikidata
Dyffryn Ardudwy Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mehefin 1955 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Sir Abermaw Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Yn 1905 ymunodd E. Morgan Humphreys â staff Y Genedl Gymreig yng Nghaernarfon a chafodd ei benodi'n olygydd y papur 4 mlynedd yn ddiweddarach. Golygodd hefyd The North Wales Observer ac Y Goleuad ac roedd yn gyfranydd cyson fel colofnydd ac adolygydd i'r Manchester Guardian a'r Liverpool Daily Post dan y ffugenw "Celt".

Gwaith llenyddol golygu

Ymroddodd E. Morgan Humphreys i ysgrifennu nofelau antur a ditectif cyfaddas i bobl ifanc yng Nghymru a gwnaeth gymwynas fawr trwy lenwi'r bwlch hwnnw gan fod pobl ifanc y cyfnod, fel heddiw, yn tueddu i droi at lyfrau Saesneg. Er eu bod yn storïau wedi'u anelu at blant yn eu harddegau yn bennaf maent yn hynod ddarllenadwy ac yn ddiddorol i oedolion yn ogystal.

Ysgrifennodd yn ogystal lyfr ar hanes y wasg yng Nghymru a dwy gyfrol o bortreadau o enwogion Cymru, ynghyd â chyfieithiad o Cwm Eithin, clasur Hugh Evans.

Llyfrau golygu

 

I blant a phobl ifanc golygu

Eraill golygu

  • Y Wasg Gymraeg (1945)
  • The Gorse Glen (1948). Cyfieithiad o Cwm Eithin gan Hugh Evans.
  • Gwŷr Enwog Gynt (1950, 1953)

Llyfryddiaeth golygu

Gweler hefyd golygu


Llyfrau E. Morgan Humphreys  
Ceulan y Llyn Du | Dirgelwch Gallt y Ffrwd | Dirgelwch yr Anialwch | Yr Etifedd Coll | Y Llaw Gudd | Llofrudd yn y Chwarel | Rhwng Rhyfeloedd