Llywelyn ab Ynyr

Esgob Llanelwy

Clerigwr Cymreig oedd Llywelyn ab Ynyr (bu farw 1314), a fu'n Esgob Llanelwy o 1293 hyd ei farw. Fe'i gelwir hefyd yn Llywelyn de Bromfield mewn ffynonellau Lladin a Saesneg.

Llywelyn ab Ynyr

Fel mae'r enw 'Llywelyn de Bromfield' yn awgrymu, brodor o Frwmffild (Saesneg: Bromfield) yng ngogledd-ddwyrain Cymru (ardal sydd ym mwrdeistref sirol Wrecsam heddiw) oedd Llywelyn. Ni wyddom lawer iawn amdano. Daeth yn un o ganoniaid Esgobaeth Llanelwy ac yn 1293 olynodd Einion II (neu Anian II) fel Esgob Llanelwy.[1]

Bu farw Llywelyn yn 1314 a chafodd ei olynu gan Dafydd ap Bleddyn, yntau'n un o ganoniaid Llanelwy.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1987; arg. newydd 1991), tud. 375.
  2. The Age of Conquest: Wales 1063-1415, tud. 375.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.