Arlywydd Iwerddon

(Ailgyfeiriad o Llywydd Iwerddon)

Arlywydd Iwerddon yw pennaeth gwladwriaeth Gweriniaeth Iwerddon a goruchaf reolwr Lluoedd Amddiffyn Iwerddon. Mae'r arlywydd yn dal ei swydd am saith mlynedd, a gellir ei ethol am uchafswm o ddau dymor. Caiff ei ethol yn uniongyrchol gan y bobl, er nad oes etholiad os mai dim ond un ymgeisydd sy'n cael ei enwebu, sydd wedi digwydd chwe gwaith hyd yn hyn. Swydd seremonïol yw'r arlywyddiaeth i raddau helaeth, ond mae'r llywydd yn arfer rhai pwerau cyfyngedig gyda disgresiwn llwyr. Mae'r arlywydd yn gweithredu fel cynrychiolydd gwladwriaeth Iwerddon a cheidwad cyfansoddiad y wlad.

Arlywydd Iwerddon
Enghraifft o'r canlynolswydd, rhestr wybodaeth Edit this on Wikidata
Matharlywydd, pennaeth y wladwriaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu25 Mehefin 1938 Edit this on Wikidata
Deiliad presennolMichael D. Higgins Edit this on Wikidata
Deiliaid a'u cyfnodau 
  • Michael D. Higgins (11 Tachwedd 2011)
  • Hyd tymor7 blwyddyn Edit this on Wikidata
    Enw brodorolUachtarán na hÉireann Edit this on Wikidata
    GwladwriaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
    Gwefanhttps://president.ie/en, https://president.ie/ga Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

    Yr arlywydd presennol yw Michael D. Higgins, a etholwyd gyntaf ar 29 Hydref 2011. Cafodd ei urddo ar 11 Tachwedd 2011. Cafodd ei ailethol am ail dymor ar 26 Hydref 2018.

    Preswylfa swyddogol yr arlywydd yw Áras an Uachtaráin ym Mharc Phoenix, Dulyn. Sefydlwyd y swyddfa gan Gyfansoddiad Iwerddon ym 1937, daeth yr arlywydd cyntaf i'w swydd ym 1938, a chafodd gydnabyddiaeth ryngwladol fel pennaeth y wladwriaeth ym 1949, yn dilyn Deddf Gweriniaeth Iwerddon.

    Does dim Dirpwy-Arlywydd neu Is-Arlywydd. Ar ôl marwolaeth neu ymddiswyddiad arlywydd mae Comisiwn Arlywyddol yn gweithredu fel arlywydd - mae'r Comisiwn yn cynnwys y Prif Ustus, y Ceann Comhairle (Siaradwr) Dáil Éireann, a Cathaoirleach (Cadeirydd) Seanad Éireann.

    I sefyll mewn etholiad arlwyddol, mae'n rhaid i ymgeisydd gael ei enwebu gan 20 aelod o'r Oireachtas (y Dáil a'r Senead), neu gan 4 cyngor sir, neu mae'n bosibl i gyn-Arlywydd sydd heb gael 2 dymor fel arlywydd enwebu'i hun.

    Rhestr o Arlywyddion Iwerddon

    golygu
    # Enw Dechrau y Swydd Gadael y Swydd Plaid nodiadau
    Comisiwn Arlywyddol 29 Rhagfyr, 193725 Mehefin, 1938 dros dro
    1. Douglas Hyde 25 Mehefin, 193824 Mehefin, 1945 enwebwyd gan bob plaid
    2.Seán T. O'Kelly 25 Mehefin, 194524 Mehefin, 1959 Fianna Fáil2 dymor
    3.Éamon de Valera 25 Mehefin, 195924 Mehefin, 1973 Fianna Fáil2 dymor
    4.Erskine Hamilton Childers 25 Mehefin, 197317 Tachwedd, 1974 Fianna FáilBu farw 17/11/74
    Comisiwn Arlywyddol 17 Tachwedd, 197418 Rhagfyr, 1974 dros dro
    5.Cearbhall Ó Dálaigh 19 Rhagfyr, 197422 Hydref, 1976 Fianna Fáilymddiswyddodd 22/10/76
    Comisiwn Arlywyddol 22 Hydref, 19762 Rhagfyr, 1976 dros dro
    6.Patrick Hillery 3 Rhagfyr, 19762 Rhagfyr, 1990 Fianna Fáil2 dymor
    7.Mary Robinson 3 Rhagfyr, 1990 12 Medi, 1997 Llafurymddiswyddodd 2 fis yn gynnar er mwyn dechrau swydd gyda'r Cenhedloedd Unedig
    Comisiwn Arlywyddol 12 Medi, 199710 Tachwedd, 1997 dros dro
    8.Mary McAleese 10 Tachwedd, 199710 Tachwedd, 2011 Fianna Fáil
    9.Michael D. Higgins 11 Tachwedd, 2011heddiw Llafur

    Cyfeiriadau

    golygu