Éamon de Valera

gwleidydd, diplomydd, mathemategydd (1882-1975)

Éamon de Valera (ganwyd Edward George de Valera, enw Gwyddeleg Éamonn de Bhailéara) (14 Hydref 1882 - 29 Awst 1975), oedd un o arweinyddion y mudiad dros annibyniaeth Iwerddon oddi wrth Brydain ar ddechrau'r 20g. Cymerodd ran yng Ngwrthryfel y Pasg yn 1916, a bu bron iddo gael ei ddienyddio gydag arweinwyr eraill y gwrthryfel gan y Saeson.

Éamon de Valera
Ganwyd14 Hydref 1882 Edit this on Wikidata
Manhattan Edit this on Wikidata
Bu farw29 Awst 1975 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
AddysgBaglor yn y Celfyddydau, Baglor mewn Gwyddoniaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Brenhinol Iwerddon
  • C.B.S. Charleville Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, diplomydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddTaoiseach, Arlywydd Iwerddon, Arlywydd Cyngor Gweithredol Gwladwriaeth Rydd Iwerddon, Arlywydd Gweriniaeth Iwerddon, Llywydd Dáil Éireann, Arweinydd Fianna Fáil, Taoiseach, Taoiseach, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Gweinidog Addysg a Sgiliau, Gweinidog Materion Tramor a Masnach, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Gweinidog Tai, Cynllunio a Llywodraeth Leol, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, llysgennad, Aelod Seneddol Gogledd Iwerddon, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolFianna Fáil, Sinn Féin Edit this on Wikidata
TadJuan Vivion de Valera Edit this on Wikidata
MamCatherine Coll Edit this on Wikidata
PriodSinéad de Valera Edit this on Wikidata
PlantBrian de Valera, Emer de Valera, Vivion de Valera, Máirin de Valéra, Éamon de Valera, Rúaidhrí de Valera, Terry de Valera Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Goruchaf Crist, Dinesydd anrhydeddus Dulyn Edit this on Wikidata
llofnod

Gwrthododd arwain y ddirprwyaeth a aeth i Lundain i gael Cytundeb gyda Llywodraeth Prydain. Arhosodd yn ôl yn Nulyn. Ond roedd yn anghytuno'n llwyr gyda'r telerau a arwyddwyd ar ei ran gan Michael Collins, Arthur Griffith a'r dirprwyaeth, ac yn flin na wnaethant gysylltu a thrafod ag ef cyn arwyddo. Achosodd telerau'r cytundeb a arwyddwyd, Cytundeb Eingl-Wyddelig iddo ymddiswyddo fel Arlywydd Iwerddon.

Yn ddiweddarch daeth yn arweinydd yr wrthblaid Weriniaethol yn ystod y Rhyfel Cartref Iwerddon 1922-23. Wedi methiant y Rhyfel Cartref i newid polisi y wladwriaeth newydd, fe sefydlodd de Valera blaid weriniaethol newydd, Fianna Fáil a ddaeth fewn i rym yn 1932. Yn ddiweddarach, daeth yn Brif Weinidog dair gwaith (y tro cyntaf fel ail Arlywydd y Cyngor Gweithredol, ac fel y Taoiseach cyntaf (teitl y Prif Weinidog yn ôl Cyfansoddiad 1936)). Gorffennodd ei yrfa wleidyddol fel trydydd Arlywydd Gweriniaeth Iwerddon (Gwyddeleg: Uachtarán na hÉireann), rhwng 25 Mehefin 1959 a 24 Mehefin 1973.

Cyfansoddiad Iwerddon golygu

De Valera oedd prif awdur a symbylydd ysgrifennu Cyfansoddiad Iwerddon ar ddiwedd yr 1930au. Rhoddodd y Cyfansoddiad statws a threfn i Wladwriaeth Rydd Iwerddon. Er bod pwyslais fawr ar ddysgeidiaeth grefyddol Catholig mae'n ymwrthod â gwneud Catholigiaeth yn grefydd swyddogol y wladwriaeth newydd. Bu sawl newid i'r cyfansoddiad dros y degawdau, ond mae'n dal i fod, yn ei hanfod, yn arwydd o lwyddiant gwaddol de Valera.

Gweler hefyd golygu