Local Government Association
Y Local Government Association neu'r LGA (enw Cymraeg answyddogol: 'Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Lloegr') yw'r corff sy'n cynrychioli buddiannau awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Fe'i sefydlwyd yn 1997. Lleolir ei phencadlys yn Sgwâr Smith, Llundain.
Enghraifft o'r canlynol | cymdeithas |
---|---|
Label brodorol | Local Government Association |
Dechrau/Sefydlu | Ebrill 1997 |
Yn cynnwys | District Councils' Network |
Rhagflaenydd | Association of Metropolitan Authorities, Association of County Councils, Association of District Councils |
Aelod o'r canlynol | Council of European Municipalities and Regions |
Enw brodorol | Local Government Association |
Gwefan | https://www.local.gov.uk |
Strwythur
golyguMae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn aelod cyswllt o'r LGA am fod Cymru yn cael ei chynnwys gyda Lloegr o hyd am rai materion gweinyddol a chyfreithiol (gweler Cymru a Lloegr), er gwaethaf datganoli. Does gan Loegr ddim gymdeithas lywodraeth leol iddi ei hun o fewn yr LGA.[1] Rhennir yr LGA yn rhanbarthau Seisnig gyda Chymru yn cael ei hystyried yn "rhanbarth" ar wahân.[2] Does dim cymdeithas llywodraeth leol ar gyfer y DU gyfan: yn yr Alban ceir y Convention of Scottish Local Authorities ac yng Ngogledd Iwerddon ceir 'Cymdeithas Llywodraeth Leol Gogledd Iwerddon' (Northern Ireland Local Government Association).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "LGA". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-09. Cyrchwyd 2009-05-26.
- ↑ "Map o "ranbarthau" yr LGA". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-09. Cyrchwyd 2009-05-26.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan yr LGA