Locomotif rhif 6, 'Douglas' (Rheilffordd Talyllyn)
Mae Locomotif rhif 6, 'Douglas' yn locomotif cledrau cul sy’n gweithio ar Reilffordd Talyllyn. Adeiladwyd y locomotif gan Andrew Barclay Sons & Co. Ltd. ym 1918. Aeth y locomotif i Faes Awyr Manston yr Awyrlu Frenhinol ar 21 Chwefror 1918, a treuliodd mwyafrif ei yrfa yn Calshot, ger Southampton yng ngwersyll hyfforddi am reilffyrdd cledrau cul. Gwerthwyd y locomotif am £60 ym mis Ebrill 1949 i Abelson a Chwmni (Peiriannwyr) Cyf. Roedd y Rheilffordd Talyllyn wedi ysgrifennu atynt, yn chwilio am ddarpar, a chynigwyd y locomotif. Enwyd y locomotif ar ôl Douglas Abelson. Ar ôl gwaith atgyweirio ac addasu ar gyfer cledrau lled 2 droedfedd gan Ffowndri Griffin, Oldbury[1] (Talwyd amdano gan Abelson), aeth y locomotif i Dywyn.[2][3] Ar yr un adeg, newidiwyd cyfundrefn y byffrau i gael pâr ar 2 ben y locomotif ac estynnwyd cab y locomotif gan 6 modfedd.[4] Dros y blynyddoedd, mae Douglas wedi ymddangos gyda sawl lifrai, gan gynnwys lliwiau Adran Gwaith ac Adeiladu’r Weinyddiaeth Awyr, lliwiau’r Rheilffordd Talyllyn, coch, a glas yr Awyrlu Frenhinol.[5][6]
Math o gyfrwng | locomotif tanc |
---|---|
Lled y cledrau | two-foot three-inch gauge |
Gwneuthurwr | Andrew Barclay Sons & Co. |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan locomotive.fandom.com[dolen farw]
- ↑ Railway Magazine, Mehefin 1954, cyhoeddwr Gwasg Tothill
- ↑ The Calshot and Fawley Narrow gauge Railways gan Frederick Cooper, cyhoeddwr Gwasg Plateway
- ↑ The Calshot and Fawley Narrow gauge Railways gan Frederick Cooper, cyhoeddwr Gwasg Plateway
- ↑ "Gwefan Rheilffordd Talyllyn". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-02-24. Cyrchwyd 2021-03-10.
- ↑ Gwefan y Shropshire Star
Dolen allanol
golygu- Gwefan y Rheilffordd Archifwyd 2019-07-01 yn y Peiriant Wayback