Lois Blake

hanesydd a hyrwyddwraig dawnsio gwerin Cymru

Roedd Lois Blake (18901974) yn un o arweinwyr pennaf y mudiad dawnsio gwerin Cymreig yn yr 20g ac yn un o brif symbolwyr sefydlu Cymdeithas Ddawns Werin Cymru yn 1949.[1] Yn ôl gwefan Amgueddfa Werin Cymru, Lois Blake oedd "bennaf gyfrifol am achub gweddillion y traddodiad a fu unwaith mor boblogaidd yng Nghymru."[2]

Lois Blake
Ganwyd21 Mai 1890 Edit this on Wikidata
Streatham Edit this on Wikidata
Bu farw19 Tachwedd 1974 Edit this on Wikidata
Marshfield Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, nyrs Edit this on Wikidata
Swyddcadeirydd Edit this on Wikidata
Plac i goffáu cyfraniad Lois Blake yn Llangwm

Bywgraffiad

golygu

Saesnes o Lerpwl oedd Lois Blake on symudodd i fyw i 'Melysfan' Langwm, Sir Ddinbych yn 1931. Pan oedd yn byw yn Lloegr roedd yn weithgar gyda'r English Folk Dance Society. Ar symud i Langwm, synwyd hi mai prin iawn oedd y dawnsio gwerin a welwyd yng Nghymru ac aeth ati i ymchwilio am ddawnsiau a cherddorieth Gymreig.

Oherwydd ei gweithgarwch Lois Blake oedd Llywydd gyntaf Cymdeithas Ddawns Werin Cymru a sefydlwyd yn 1949,[3] ac yna'n drefnydd hefyd.[4] 38 mlynedd ar ôl sefydlu'r English Folk Dance Society gan Cecil Sharp yn 1911.

Yn adroddiad blynyddol gyntaf y Gymdeithas yn 1950 nodwyd pwysigrwydd a gweithgaredd Lois;

"Yr ydym yn ddyledus i'n Llywydd a'n Trefnydd, Mrs. Lois Blake, am ei gwaith arbennig o ennyn diddordeb yn y dawiisio Gwerin Cymreig yn y gwahanol glybiau a Sefydiiad y Merched, a hefyd am y gwaith ymchwil gwerthfawr a gyfiawnodd ers blynyddoedd ynglŷn â gwreiddiau ein dawnsiau Cenedlaethol.
Trefnodd Mrs. Blake amryw o Ysgolion Undydd i Athrawon ac Arwein- wyr Ieuenctid yn y Rhyl, Llanfair Caereinion, Rhuthun, Dyserth, Bae Colwyn a'r Wyddgrug, a hefyd cymerodd gyrsiau preswyl o dan nawdd yr Urdd yn Aberystwyth."

Cyhoeddwyd nifer o bamffledi ag arnynt ddawnsiau a cherddoriaeth, a'i gwnaeth yn bosib ailgyhoeddi dawnsiau o'r gorffennol fel Jig Arglwydd Caernarfon o 1652, set Llangadfan o 1790 a Dawns Llanofer, a oedd yn boblogaidd yn Llys Llanofer tan ddiwedd y 19g.[2]

Codwyd plac llechen mewn coffadwriaeth iddi yn Llangwm gan Gymreithas Ddawns Werin Cymru yn 1999 ar 50 mlwyddiant sefydlu'r Gymdeithas. Dadorchuddiwyd y plac gan ei merch, Felicity.

Gwnaeth Lois Blake waith yn cofnodi parhâd traddodiad y Mari Lwyd gan nodi, mewn llythyr i'r 'English Dance and Song' mannau ym Mro Morgannwg lle roedd dal yn fyw ac yn cael adfywiad.[5]

Gwaddol

golygu

Cedwir Casgliad Lois Blake yn y Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan fel rhan o gasgliad y Gymdeithas Ddawns Werin. Rhoddwyd y casgliad i'r Gymdeithas gan ei merch, Felicity.[6]

Ceir Cystadleuaeth Tlws Coffa Lois Blake ar gyfer dawnsio gwerin er cof a diolch iddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sef Cystadleuaeth Tlws Coffa Lois Blake. Bydd y cystadleuwyr yn dawnsio dawnseydd wedi eu gosod.[7] Yn ogystal â'r Tlws, ceir gwobr ariannol hefyd i'r tîm dawnsio fuddugol.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Lois Blake". Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein. Cyrchwyd 22 Mai 2023.
  2. 2.0 2.1 "Dawnsio Gwerin - bron â diflannu i ebargofiant". Gwefan Amgueddfa Cymru. 20 Ionawr 2019.
  3. "Cyfansoddiad 1949". Dawnsio gwefan Cymdeithas Ddawns Werin Cymru. 20 Ionawr 2019.
  4. "Cylchlythyr 1953" (PDF). Cymdeithas Ddawns Werin Cymru. Cyrchwyd 20 Ionawr 2019.
  5. https://en.wikipedia.org/wiki/Mari_Lwyd
  6. "Lois Blake". Dawnsio gwefan Cymdeithas Ddawns Werin Cymru. 20 Ionawr 2019.
  7. "Tlws Coffa Lois Blake". Gwefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru. 20 Ionawr 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-19. Cyrchwyd 2019-01-20.

Dolenni allanol

golygu