Eiry Palfrey

actores a aned yn 1939

Actores, awdur, cynhyrchydd ac astrolegydd Cymreig yw Eiry Palfrey (ganwyd Tachwedd 1939).

Eiry Palfrey
GanwydEiry Lloyd Palfrey Edit this on Wikidata
Tachwedd 1939 Edit this on Wikidata
Llanfihangel y Creuddyn Edit this on Wikidata
Man preswylLlanfyllin, Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amPrifysgol Aberystwyth Edit this on Wikidata
PlantLisa Palfrey, Daf Palfrey Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed Eiry Palfrey yn Llanfihangel y Creuddyn ger Aberystwyth. Cafodd ei magu a'i haddysgu yn Llanfyllin, Sir Drefaldwyn ac fe astudiodd Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Mae'n byw yng Nghaerdydd.[1][2]. Mae'n fam i'r actores Lisa Palfrey a'r cyfarwyddwr Dafydd Palfrey.[3]

Ar ôl gadael y brifysgol fe aeth i ddysgu am ychydig cyn cael swydd gyda HTV Cymru yn 1974 fel cyflwynydd a darllenydd newyddion. Fe wnaeth hynny tan tua 1982.[4] Yn 1985 fe ddatblygodd HTV Cymru yr opera sebon Dinas ar gyfer S4C a chafodd Eiry ran yn chwarae'r cymeriad Helen Ambrose. Bu'n gweithio gyda chwmni Teliesyn rhwng 1990 a 2001 fel cynhyrchydd, cyn gadael i ffurfio cwmni cynhyrchu Tracrecord.[5]

Mae'n ymddiddori mewn dawnsio gwerin a bu'n gadeirydd Cymdeithas Dawns Werin Cymru. g Ysgrifennodd y ddrama ddogfen Poncho Mamgu a ddangoswyd ar S4C yn 2008. Roedd y rhaglen yn adrodd hanes Nel Davies a ymfudodd i'r Wladfa ym Mhatagonia ym 1875. Cyfarwyddwyd y rhaglen gan ei mab Dafydd, ei merch Sian Elin oedd tu ôl i'r camera a roedd ei merch arall, Lisa yn chwarae rhan Nel.

Llyfryddiaeth[2]

golygu
  • Arwyr Gwerin Cymru i Ddysgwyr (Dref Wen)
  • Un Tro – Chwedlau Cymru, Cernyw ac Iwerddon i Blant (J.D. Lewis, 1979)
  • Cyfres Slici a Slac (Hughes a’i Fab)
  • Chwedlau Cymru i Ddysgwyr (Gwasg y Dref Wen, 1982)
  • Melangell (Gomer, 2005)
  • Hiding Hopcyn (Pont, 2006)
  • Llyfr Penblwydd (Gwasg Gomer, 2008)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Llyfr Pen-blwydd - Eiry Palfrey". BBC Cymru. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2015.
  2. 2.0 2.1 "Rhestr Awduron Cymru - Eiry Palfrey". Llenyddiaeth Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2015.
  3. O Drelew i Dre-fach, BBC; Adalwyd 2015-12-30
  4. Cyfweliad Teliesyn Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback 18 Gorffennaf 2012; Adalwyd 2015-12-30
  5. Dinas, Porth; Adalwyd 2015-12-30

Dolenni allanol

golygu