Un o ynysoedd Denmarc yn y Môr Baltig yw Lolland. Hi yw pedwaredd ynys Denmarc o ran maint, gydag arwynebedd o 1243 km², ac mae culfor Guldborgsund yn ei gwahanu oddi wrth ynys Falster. Mae'n rhan o dalaith Storstrøm, ac roedd poblogaeth yr ynys yn 65,764 yn 2010.

Lolland
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth59,456 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Lolland, Bwrdeistref Guldborgsund Edit this on Wikidata
GwladBaner Denmarc Denmarc
Arwynebedd1,242.86 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Baltig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.76944°N 11.42444°E Edit this on Wikidata
Hyd58 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Y dref fwyaf ar yr ynys yw Nakskov, gyda phoblogaeth o tua 13,000. Tir isel yw'r ynys i gyd, gyda'r pwynt uchaf dim ond 25 medr uwch lefel y môr. Mae'r ynys yn un o ardaloedd lleiaf cyfoethog Denmarc.

Lleoliad Lolland yn Denmarc
Beddrod megalithig Kong Svends Høj