Falster
Un o ynysoedd Denmarc yn y Môr Baltig yw Falster. Mae ganddi arwynebedd o 514 km² a phoblogaeth o 43,537, gyda 40% o'r rhain yn y dref fwyaf, Nykøbing Falster.
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 43,530 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Sydhavsøerne |
Sir | Bwrdeistref Guldborgsund |
Gwlad | Denmarc |
Arwynebedd | 513.76 km² |
Gerllaw | Guldborg Sund, Y Môr Baltig |
Cyfesurynnau | 54.8°N 11.97°E |
Mae culfor Guldborgsund yn ei gwahanu oddi wrth ynys Lolland. Cysylltir hi a Lolland gan ddwy bont a thwnel, ac ag ynys Sjælland gan ddwy bont. Ar Falster y mae pwynt mwyaf deheuol Denmarc, a phwynt mwyaf deheuol Llychlyn, Gedser Odde.