Mae Loren Dykes (ganwyd 5 Chwefror 1988) yn chwarae pêl-droed i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru a thîm pêl-droed menywod Dinas Bryste. Ar ddechrau ei gyrfa chwaraeodd Dykes ar yr asgell neu fel blaenwr, cyn newid i chwarae fel cefnwr. Mae wedi ennill dros 50 cap dros Gymru.

Loren Dykes
Ganwyd5 Chwefror 1988 Edit this on Wikidata
Treforys Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auCardiff City Ladies F.C., Bristol City W.F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru Edit this on Wikidata
SafleCefnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Gyrfa clwb

golygu

Aeth Dykes i Ysgol Gymunedol Cwmtawe[1] a chwaraeodd i dîm Llanelli Reds.[2] Symudodd i dîm Menywod Dinas Caerdydd a chwaraeodd i'r Adar Gleision yng Nghwpan Menywod UEFA with The Bluebirds,[3] cyn ymuno ag Academi Bryste yn 2008–09.

Chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan Menywod FA fel asgellwr, ac yna yn y rownd derfynol yn 2013 ar ôl ail-hyfforddi fel cefnwr dde.[4] Collodd Bryste y ddwy gêm i Arsenal.

Gyrfa ryngwladol

golygu

Enillodd Dykes 17 cap dros dîm dan 19 Gymru, a sgoriodd bedair gôl. Chwaraeodd i'r tîm hŷn am y tro cyntaf pan oedd yn 19 oed, pan gollodd Cymru 2-1 i'r Iseldiroedd yn Awst 2007.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Wales too good for Bulgarians". Llanelli Star. 2011-02-04. Cyrchwyd 2010-11-26.
  2. "International Teams — Loren Dykes". Football Association of Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-21. Cyrchwyd 17 September 2010.
  3. "Loren Dykes". UEFA. Cyrchwyd 2011-02-04.
  4. "Bristol Academy relishing cup final date". Bristol City FC. 24 May 2013. Cyrchwyd 3 November 2013.[dolen farw]
  5. "Match Report – Netherlands 2 – 1 Wales". Football Association of Wales. 2007-08-26. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-21. Cyrchwyd 2011-02-04.

Dolenni allanol

golygu