Lorenzo Valla
Athronydd Eidalaidd ac offeiriad Catholig, rhethregwr a beirniad yn yr iaith Ladin, a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Lorenzo Valla (Lladin: Laurentius Vallensis; 1407 – 1 Awst 1457). Mae'n nodedig am ei feirniadaeth destunol o ysgolheictod hanesyddol a chrefyddol Ewrop ac am ei gwerylon ffyrnig ag ysgolheigion eraill yr oes.
Lorenzo Valla | |
---|---|
Ganwyd | 1407 Rhufain |
Bu farw | 1 Awst 1457 Rhufain |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, ieithegydd, academydd, athronydd, offeiriad Catholig, dyneiddiwr y Dadeni |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | De falso credita et ementita Constantini donatione declamatio, Confutatio in Morandum, Elegantiarum linguae latinae libri sex, Confutatio altera in Morandum, Fabelle Aesopi, Apologus seu actus scenicus in Poggium |
Mudiad | Dyneiddiaeth |
Bywgraffiad
golyguGaned Lorenzo Valla yn Rhufain, Taleithiau'r Babaeth, ym 1407. Derbyniodd ei addysg yno ac aeth ar grwydr drwy'r Eidal gan fireinio'i feistrolaeth ar yr ieithoedd Groeg a Lladin a llenyddiaeth glasurol.
Ym 1431 fe'i penodwyd yn athro rhethreg ym Mhrifysgol Pavia. Yno, ymosododd ar draddodiadau canoloesol y gyfadran gyfreitheg, a daeth i'r amlwg fel lladmerydd o ramadeg ac ieitheg yn y clasuron. O ganlyniad i'r ddadl, gorfodwyd iddo adael Pavia ym 1433. Er gwaethaf, enillodd enw am ei lenydda a'i rethreg bolemig a chafodd ei groesawu i lysoedd gan frenhinoedd, dugiaid a changellorion ar draws yr Eidal, a threuliodd y cyfnod 1435–48 yn Napoli yn bennaf.[1]
Ym 1440 cyhoeddwyd y traethodyn De falso credita et ementita Constantini donatione declamatio ganddo, gwaith sydd yn profi natur ffug Donawd Cystennin, y ddogfen a hawliwyd gan y Babaeth i gyfiawnhau ei hawdurdod gwleidyddol ac eglwysig yn y byd hwn. Defnyddiodd Valla ddadansoddiadau ieithegol i ddatguddio croesddywediadau mewnol a chamamseriadau'r ddogfen. Ysgrifennodd Valla De falso i gefnogi achos ei noddwr, Alfonso V, brenin Aragón, yn ei ymgyrch yn erbyn y Babaeth yn ne'r Eidal.
O ganlyniad i De falso, a'i ysgrifeniadau damcaniaethol ar bwnc crefydd, cyhuddwyd Valla o baganiaeth neu heresi gan chwilyswyr y pab, a bu'n rhaid iddo ddibynnu ar gymorth y Brenin Alfonso nes iddo ailgymodi â'r Eglwys ym 1448. Dychwelodd i'w ddinas enedigol a fe'i penodwyd yn ysgrifennydd i'r Pab Niclas V. Yn Rhufain, bu Valla yn addysgu, yn cyfieithu awduron Groeg i Ladin, ac yn lladmerydd dros ddyneiddiaeth y Dadeni o fewn yr Eglwys. Defnyddiodd ei ddulliau ieithegol i astudio ac anodi y Fwlgat, a chafodd ddylanwad mawr ar ddyneiddiaeth Gristnogol wedi i Desiderius Erasmus, ym 1505, ganfod llawysgrif o'r Annotationes a'i ddefnyddio i gynhyrchu cyfieithiad Lladin o'r Testament Newydd.
Bu farw Lorenzo Valla yn Rhufain ym 1457, tua 50 oed.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Lorenzo Valla" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 2 Awst 2020.
- ↑ (Saesneg) Lorenzo Valla. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Awst 2020.