Lorys Davies
Clerigwr Cymreig oedd Lorys Martin Davies (14 Mehefin 1936 – 25 Chwefror 2021). Roedd e'n Archddiacon Bolton rhwng 1992 [1] a 2001.
Lorys Davies | |
---|---|
Ganwyd | 14 Mehefin 1936 |
Bu farw | 25 Chwefror 2021 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | Archdeacon of Bolton |
Cafodd Davies ei eni yn Hendy-gwyn. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn a Choleg Dewi Sant, Lampeter . Ordeiniwyd ef yn ddiacon ym 1959 ac yn offeiriad ym 1960. Ar ôl curadiaeth yn Ninbych- y-pysgod roedd yn Gaplan yn Ysgol Brentwood rhwng 1962 a 1966; ac yna o Ysgol Solihull rhwng 1966 a 1968. Roedd yn Ficer Moseley rhwng 1968 a 1981; Canon Preswyl yn Eglwys Gadeiriol Birmingham rhwng 1981 a 1992; a Chynghorydd Esgob Manceinion ar Gaplaniaid Ysbyty rhwng 1992 a 2001 [2] Roedd ganddo ef a'i wraig Barbara ddau fab. Bu farw yn 84 oed.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Church News". The Times (yn Saesneg) (64170). Llundain. 6 Tachwedd 1991. t. 18.
- ↑ "Davies, Ven. Lorys Martin" (yn en). Who's Who 2013 (Oxford University Press). 2013.
- ↑ "Obituary: The Ven. Lorys Davies". Church Times (yn Saesneg). 1 Ebrill 2021. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2021.