Clerigwr Cristnogol sy'n cyd-fyw mewn cabidwl neu glawdstrdy yng nghyffiniau eglwys gadeiriol neu golegol, neu sydd fel arall yn ymwneud â chadeirlan, yw canon,[1] canonwr,[2] neu yn hynafaidd sianon.[3]

Hen ddarluniad o ganon Catholig yn ei gôr-wisg (Gwlad Belg, 1812).

Yn oesoedd cynnar yr eglwys Gristnogol, offeiriaid oedd yn cyd-fyw oedd canoniaid. Daw'r gair yn y bôn o canonicus, Lladin am "reol" neu "gyfraith", sy'n awgrymu i'r clerigwr drefnu ei fywyd yn unol â rheolau neu ganonau penodol ei urdd neu gymdeithas. Yn ddiweddarach defnyddid yr enw i ddisgrifio clerigwyr oedd yn rhan o eglwys gadeiriol, ac yn cyfrannu at fywyd a gweinydiaeth y gadeirlan. Defnyddid yr enw canones yn yr Oesoedd Canol i ddisgrifio aelod o urdd Gristnogol fenywaidd. Yn wahanol i leianod, nid oedd canonesau yn cymryd arnynt ddiofryd tlodi.

Defnyddir y gair canon yn deitl eglwysig yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig ac yn y Cymundeb Anglicanaidd, er bod peth gwahaniaeth rhwng y swyddi yn y ddwy eglwys honno. Yn yr Eglwys Gatholig, gwahaniaethir rhwng canoniaid seciwlar, sef offeiriaid sydd yn rhan o eglwys ond heb gymryd arnynt ddiofrydau arbennig, a chanoniaid rheolaidd, sydd yn byw yn ôl rheolau penodol ac yn dilyn trefn led-fynachaidd ym mywyd pob dydd, megis Brodyr Sant Awstin.

Yr Eglwys Gatholig

golygu

Nid yw canoniaid o hynafiaeth mawr. Sylwa Pasquier nad oedd yr enw canon yn adnabyddus cyn oes Siarlymaen. O leiaf y tro cyntaf y cawn hyd iddo sydd yng ngwaith Georgius Florentius (Grégoire de Tours), yr hwn a sonia am goleg o ganoniaid, a sefydlwyd gan Baldwin XVI, Archesgob Tours yn oes Chlothar I. Ar y dechrau nid oedd canoniaid ond yn offeiriaid, neu is-eglwyswyr yn byw gyda'i gilydd yn ymyl yr eglwys gadeiriol, er mwyn cynorthwyo'r esgob. Byddent yn ymddibynnu'n hollol ar ei ewyllys ef, ac yn cael eu cynnal gan gyllid yr esgobaeth, ac yn preswylio yn yr un tŷ, fel ei weision neu ei gynghorwyr. Byddent hyd yn oed yn etifeddu ei dda mudo, hyd y flwyddyn 816, pryd y gwaharddwyd hynny gan gymanfa Aix la Chapelle. Yn raddol ymwrthododd y cymundebau hyn â'u hymddibyniaeth, ac ymffurfiasant yn gyrff gwahanol, er bod yr esgobion yn bennau arnynt fyth. Yn y 10g yr oedd amryw o gymundebau neu gynulleidfaoedd o'r fath wedi eu sefydlu hyd yn oed mewn dinasoedd lle nad oedd esgobion. Gelwid y rhai hyn yn golegwyr. Roedd yr enw cabidwl a roddwyd arnynt yn llawer mwy diweddar. O dan ail hil brenhinoedd Ffrainc, brenhinllin y Capetiaid, yr oedd y bywyd canonaidd neu golegol wedi ymdaenu dros yr holl wlad, ac yr oedd gan bob eglwys gadeiriol ei chabidwl ar wahân oddi wrth y gweddill o'r offeiriaid.

Cawsant yr enw Hen Ffrangeg canon, trwy'r ffurf Ladin canōn, oddi wrth y gair Groeg κανών, yr hwn a arwyddoca dri o wahanol bethau: "rheol", "cyfarwys", neu gyllid sefydlog i fyw arno, a "rhestreb" (Lladin: matricula). Felly, dywed rhai iddynt gael eu galw yn ganoniaid oherwydd y tâl neu'r glwysfudd, ac o achos hynny gelwir hwy weithiau hefyd yn sportulantes Fratres.[4] Haera eraill iddynt iddynt gael eu galw yn ganoniaid am y cymhellid hwy i fyw yn ôl rheolau canonaidd a roddid iddynt, ac eraill, megis Pierre de Marca, am y rhoddid eu henwau i lawr yn matricula neu restreb yr eglwys gadeiriol.

Mewn amser ymryddhaodd y canoniaid oddi wrth eu rheolau, ac o'r diwedd peidiasant â byw mewn cymundeb, er iddynt ddal i ymffurfio yn gyrff. Cymerasant arnynt swyddi eraill heb law gweinyddu gwasanaeth cyffredin yr eglwys. Gwnaethant eu hunain fel cyngor angenrheidiol i'r esgob, a gweinyddasant yr esgobaeth pan y byddai'n wag, ac etholent esgob newydd i'w llenwi. Mae rhai cabidylau hyd yn oed yn rhyddion oddi wrth lywodraeth yr esgob, heb honni neb yn ben ond y deon. Yn ôl esiampl cabidylau'r eglwys gadeiriol, parhaodd y rhai colegol hefyd i ymffurfio'n gyrff neilltuol wedi iddynt beidio â byw mewn cymundeb.

Parhaodd canoniaid yn eu symlrwydd hyd yr 11g, neu, fel y dywed eraill, hyd y 12g, pryd yr ymneilltuodd rhai ohonynt oddi wrth gymundeb, gan gymryd gyda hwynt yr enw canoniaid, neu offeiriaid di-ben, oherwydd iddynt wrthod byw mewn cymundeb gyda'r esgob. Cafodd y rhai a adawyd o hynny allan yr enw canoniaid rheolaidd, a mabwysiadasant y rhan fwyaf o broffesiadau rheol Awstin. Ni wyddys yn iawn i ba ddosbarth y perthyn y canoniaid rheolaidd, pa un ai i'r clerigwyr neu'r crefyddwyr, gan fod y cyflwr clerigaidd a mynachaidd wedi eu huno ynddynt. Dadleuir yn egr o blaid y flaenoriaeth rhwng y canoniaid rheolaidd a'r offeiriaid, a rhwng y canoniaid rheolaidd a'r mynachod.

Mathau

golygu

Y rhai sydd yn dal i fyw mewn cymundeb ac sydd wedi ychwanegu at eu rheolau y broffes o addunedau ydy'r canoniaid rheolaidd. Gelwir hwy yn rheolaidd er mwyn eu gwahaniaethu oddi wrth y canoniaid ag sydd wedi ymwrthod â byw mewn cymundeb. Gelwir y mathau eraill o ganoniaid, gyda'i gilydd, yn ganoniaid seciwlar neu fydol. Ymhlith y gwahanol fathau o ganoniaid seciwlar mae:

  • Canoniaid cardinalaidd, sef rhai wedi eu cysylltu, ac, fel y dywed y Lladinwyr, incardinati, wrth eglwys, fel ag y mae offeiriad wedi ei gysylltu wrth blwyf.
  • Canoniaid cartrefol, y rhai oeddynt ganoniaid ifainc heb fod mewn urddau, ac o'r herwydd heb ganddynt unrhyw hawl mewn cabidylau neilltuol.
  • Canoniaid disgwylgar, sef rhai heb unrhyw gyllid neu lwysfudd, oedd ganddynt deitlau ac urddasau canoniaid, llais yn y cabidwl, a lle yn y côr, hyd nes y digwyddai glwysfudd iddynt.
  • Canoniaid estronol, sef y rhai ni weinyddent yn y canoniaethau y perthynent iddynt. Yn gyferbyniol â'r rhai hyn yr oedd y canoniaid trigiannol.
  • Canoniaid lleygol neu fygedol, ydynt lleygwyr wedi cael eu derbyn, o ran parch ac anrhydedd, i ryw gabidwl o ganoniaid. Y cyfryw ydyw Iarll Anjou, yn Eglwys Sant Martin de Tours, brenhinoedd Ffrainc yn eglwysi Sant Hilary, &c.
  • Canoniaid trydyddol, sef y rhai na feddent ond y drydedd ran o gyllid eu canoniaeth. Penododd Siarlymaen ar fod i'r sawl a dderbynid i'r ystâd ganonaidd fyw yn ganonaidd, ac yn unol â'r rheol a roddid iddynt, gan ufuddhau i'w hesgobion megis yr ufuddha mynachod i'w habad. Drwy hyn y daeth yr ysbryd mynachaidd i mewn i'r eglwys gadeiriol. O blegid daeth y clerigwyr, drwy gael eu rhwymo wrth reolau neilltuol, yn hanner mynachod, ac yn lle ymroddi i waith yr offeiriadaeth, cauasant eu hunain i fyny mewn clasordai, a daeth y cyfryw leoedd i gael eu galw yn fynachdai. Felly yr oedd dau fath o fynachdai, un i fynachod, a'r llall ganoniaid. Ym mhen ychydig amser daeth canu yn brif orchwyl canoniaid.

Anglicaniaeth

golygu

Dau fath o ganon sydd mewn eglwysi Anglicanaidd: canon preswyl a chanon mygedol. Mae gan y canon preswyl swyddogaeth arbennig ym mywyd y gadeirlan, megis trysorydd neu flaenor y gân. Dewisir y canoniaid preswyl o blith clerigwyr yr esgobaeth. Dan arweiniad y deon, maent yn ffurfio'r siapter sy'n rheoli'r eglwys gadeiriol.[5][6] Teitl anrhydeddus ydy'r ganoniaeth fygedol, a roddir gan esgob i glerigwr, neu weithiau i leygwr. Fel arfer nid oes dyletswyddau swyddogol gan y canon mygedol, ac eithrio mynychu cyfarfod yn yr eglwys gadeiriol unwaith y flwyddyn. Mae canoniaid Anglicanaidd fel rheol yn gwisgo urddwisg arbennig: casog ddu ag ymylwaith satin coch; botymau cochion; gwregys coch; a mantell fer ag ymylwaith coch.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  canon. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Mawrth 2019.
  2.  canonwr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Mawrth 2019.
  3.  sianon. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Mawrth 2019.
  4. John McClintock a James Strong, Cyclopædia of Biblical, Theological, and Ecclesiastical Literature, cyfrol 9 (Efrog Newydd: Harpers & Brothers, 1894), t. 964.
  5. "Esbonio termau Archifwyd 2017-11-13 yn y Peiriant Wayback", Yr Eglwys yng Nghymru. Adalwyd ar 6 Mawrth 2019.
  6. (Saesneg) "The Church of England Companion Archifwyd 2018-04-16 yn y Peiriant Wayback", Eglwys Loegr. Adalwyd ar 6 Mawrth 2019.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.