Louis Hémon
Nofelydd o Ffrainc oedd Louis Hémon (11 Hydref 1880 - 8 Gorffennaf 1913). Cafodd ei eni yn ninas Brest, Llydaw, yn fab i arolygwr ysgolion, a'i addysgu ym Mharis. Er iddo gael swydd dan y wladwriaeth, roedd ynddo ysbryd rhydd, ac ymddiswyddodd o'i swydd er mwyn cael crwydro. Treuliodd wyth blynedd yn Lloegr yn weithio fel athro Ffrangeg ac yn ysgrifennu nifer o nofelau. Yn 1911 aeth i Ganada, lle gweithiodd fel clerc swyddog ac fel cyfieithydd yn Montréal, ac yma yr ysgrifennodd ei nofel enwog Maria Chapdelaine. Bu hefyd yn was fferm am ddau fis yn nyffryn Péribonka ger Llyn St Jean. Ar ôl gadael y fferm crwydrodd tua'r gorllewin ym Mehefin 1913, tuag at Ontario a'r Llynnoedd Mawr. Ar 8 Gorffennaf 1913 tra roedd yn cerdded ar hyd rheilffordd fe'i trawyd a'i ladd gan drên ger Chapleau, Ontario.
Louis Hémon | |
---|---|
Ganwyd | 12 Hydref 1880 Brest |
Bu farw | 8 Gorffennaf 1913 o damwain rheilffordd Chapleau |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, sgriptiwr |
Adnabyddus am | Maria Chapdelaine |
Gwobr/au | person hanesyddol dynodedig |
Cyfieithwyd Maria Chapdelaine i'r Gymraeg gan John Edwards o dan y teitl Ar Gwr y Goedwig, a'i chyhoeddi gyntaf yn 1955. Roedd wedi cael beirniadaeth arni mewn cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1952.
Rhestr o'i weithiau
golygu- Lizzie Blakeston (1908)
- Maria Chapdelaine (1913)
- La Belle que voilà (1923)
- Colin-Maillard (1924)
- Battling Malone, pugiliste (1926)
- Monsieur Ripois et la Némésis (1950)