Louisa May Alcott

Awdur Americanaidd oedd Louisa May Alcott (29 Tachwedd 18326 Mawrth 1888). Mae hi'n fwyaf adnabyddus fel awdur y nofel Little Women (1868), a'i dilyniannau Little Men (1871) a Jo's Boys (1886). Cafodd ei magu yn Lloegr Newydd gan ei rhieni Abigail and Amos Bronson Alcott, dilynwyr y mudiad trosgynoliaeth, a daeth i gysylltiad agos â llawer o ddeallusion blaenllaw'r cyfnod, fel Ralph Waldo Emerson, Henry David Thoreau a Henry Wadsworth Longfellow.

Louisa May Alcott
FfugenwA. M. Barnard, Flora Fairfield, Flora Fairchild, Tribulation Periwinkle Edit this on Wikidata
GanwydLouisa May Alcott Edit this on Wikidata
29 Tachwedd 1832 Edit this on Wikidata
Germantown Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mawrth 1888 Edit this on Wikidata
Boston Edit this on Wikidata
Man preswylBoston, Concord, Massachusetts, Fruitlands, Concord, Massachusetts, Boston, Walpole, New Hampshire, Orchard House, Ewrop, Ewrop Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaethysgrifennwr, nyrs, bardd, nofelydd, awdur plant, athro, gweithiwr domestig, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLittle Women, An Old-Fashioned Girl, Jo's Boys, Work: A Story of Experience, Eight Cousins, Rose in Bloom, Under the Lilacs, Jack and Jill: A Village Story, Flower Fables, The Brownie and the Princess Edit this on Wikidata
Arddullllenyddiaeth Gothig Edit this on Wikidata
Mudiaddiddymu caethwasiaeth Edit this on Wikidata
TadAmos Bronson Alcott Edit this on Wikidata
MamAbby May Edit this on Wikidata
PerthnasauWilliam Alcott, Louise May Nieriker, John Sewall Pratt Edit this on Wikidata
Gwobr/au'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://louisamayalcott.org/ Edit this on Wikidata
llofnod

Ceisiodd ei thad redeg ysgol ar egwyddorion arloesol, ond ni chafodd ei ymdrechion fawr o lwyddiant; o ganlyniad roedd yn dioddef o anawsterau ariannol, felly bu'n rhaid i Louisa May weithio i helpu i gefnogi’r teulu o oedran ifanc, gan ddechrau gyrfa fel awdur. Cafodd lwyddiant beirniadol am ei hysgrifennu yn y 1860au. Yn gynnar yn ei gyrfa, defnyddiodd y ffugenw "A. M. Barnard" i ysgrifennu nofelau cyffrous ar gyfer pobl ifanc.

Mae ei nofel Little Women wedi'i lleoli yng nghartref teulu Alcott, Orchard House, yn Concord, Massachusetts, ac mae wedi'i seilio'n fras ar brofiadau ei phlentyndod gyda'i thair chwaer, Abigail, Elizabeth ac Anna. Cafodd y nofel dderbyniad brwd ar y pryd ac mae wedi parhau i fod yn nofel boblogaidd i blant hyd at heddiw. Mae wedi'i addasu i ffilm sawl gwaith.

Roedd Louisa May Alcott yn ffeministaidd ac ymgyrchodd i ddileu caethwasiaeth. Arhosodd yn ddibriod trwy gydol ei hoes. Bu farw o strôc, ddeuddydd ar ôl i'w thad farw, yn Boston, Massachusetts, ar 6 Mawrth 1888.

Gweithiau golygu

  • Little Women (1868)
  • Good Wives (1869)
  • An Old Fashioned Girl (1870)
  • Little Men (1871)
  • Work: A Story of Experience (1873)
  • Eight Cousins (1875)
  • Rose in Bloom (1876)
  • Under the Lilacs (1878)
  • Jo's Boys (1886)
  • Jack and Jill: A Village Story (1880)