Henry David Thoreau
Traethodydd ac athronydd o'r Unol Daleithiau oedd Henry David Thoreau (12 Gorffennaf 1817 – 6 Mai 1862).[1][2]
Henry David Thoreau | |
---|---|
Ganwyd | David Henry Thoreau 12 Gorffennaf 1817 Wheeler-Minot Farmhouse, Concord |
Bu farw | 6 Mai 1862 Concord |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, athronydd, awdur ysgrifau, hunangofiannydd, dyddiadurwr, cyfieithydd, llenor, diddymwr caethwasiaeth, naturiaethydd, ecolegydd, amgylcheddwr |
Adnabyddus am | Walden, Civil Disobedience |
Arddull | trosgynoliaeth |
Prif ddylanwad | Ralph Waldo Emerson, Crynwyr, Cynicism, Aristoteles, Homeros, Pindar, Aeschulos, Cato yr Hynaf, Bhagavad Gita, Charles Darwin, Thomas Carlyle, Alexander von Humboldt |
Mudiad | athroniaeth y Gorllewin |
Tad | John Thoreau Jr. |
Mam | Cynthia Dunbar |
Gwobr/au | Hall of Fame Americanwyr Mawr |
llofnod | |
Roedd yn gyfaill agos i brif aelodau'r mudiad trosgynoliaeth. Dylanwadwyd arno gan Ralph Waldo Emerson, a roddodd fenthyg gaban i Thoreau, wrth ymyl Walden Pond yn Concord, Massachusetts. Ysbrydolodd Thoreau gan ei arhosiad yno a disgrifiodd hynny yn ei lyfr Walden (1854), ei waith mwyaf adnabyddus, sy'n bennaf yn fyfyrdod ar fyw'n syml mewn amgylchedd naturiol.
Gwaith pwysig arall yw traethawd Thoreau "Civil Disobedience" ("Anufudd-dod Sifil", 1849), sy'n dadlau bod gan unigolyn ddyletswydd i wrthwynebu gweithredoedd anghyfiawn llywodraeth sifil. Dylanwadodd ei athroniaeth ynghylch anufudd-dod sifil ar feddyliau a gweithredoedd ffigurau nodedig o'r fath fel Leo Tolstoy, Mahatma Gandhi, a Martin Luther King.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Howe, Daniel Walker, What Hath God Wrought: The Transformation of America, 1815–1848. ISBN 978-0-19-507894-7, tud. 623.
- ↑ Thoreau, Henry David. A Week on the Concord and Merrimack Rivers / Walden / The Maine Woods / Cape Cod. Library of America. ISBN 0-940450-27-5.