Mudiad athronyddol a llenyddol a ffynnodd yn Lloegr Newydd, Unol Daleithiau America, rhwng tua 1836 a 1860 yw trosgynoliaeth (Saesneg: transcendentalism). Tarddodd ymhlith cylch o ddeallusion a wrthwynebai uniongrededd Calfiniaeth a rhesymoliaeth Undodiaeth, gan ddatblygu yn lle hynny eu ffydd eu hunain yn canolbwyntio ar ddwyfoldeb dynolryw a natur. Daeth rhai o'i gysyniadau sylfaenol o athroniaeth yr Almaen, yn arbennig Immanuel Kant, ac oddi wrth awduron o Loegr fel Thomas Carlyle, Samuel Taylor Coleridge a William Wordsworth. Cafodd syniadau crefyddol Bwdhaidd a Hindŵaidd ddylanwad pwysig ar y mudiad hefyd.

Trosgynoliaeth
Enghraifft o'r canlynolmudiad athronyddol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Er nad oedd erioed yn athroniaeth systematig, roedd ganddi rai daliadau sylfaenol. Roedd y rhain yn cynnwys y gred bod Duw yn fewnfodol mewn dynolryw a natur ac mai greddf unigol yw'r ffynhonnell wybodaeth uchaf. Arweiniodd hyn at bwyslais optimistaidd ar unigolyddiaeth, hunanddibyniaeth a gwrthod awdurdod traddodiadol.

Mynegwyd syniadau'r mudiad yn huawdl gan Ralph Waldo Emerson mewn traethodau fel "Nature" (1836), "Self-Reliance" (1841) a "The Over-Soul" (1841), a chan Henry David Thoreau yn ei lyfr Walden (1854).

Dechreuodd y mudiad gyda chyfarfodydd achlysurol yn Boston, Massachusetts a Concord, Massachusetts yn y 1830au i drafod athroniaeth, llenyddiaeth a chrefydd. Yn ogystal ag Emerson a Thoreau, roedd aelodau eraill y grŵp hwn yn cynnwys Amos Bronson Alcott (tad yr awdur Louisa May Alcott), Margaret Fuller, Frederic Henry Hedge, Theodore Parker a George Ripley.

Mewn sawl modd y mudiad deallusol cyntaf y gellid ei nodi fel rhywbeth unigryw cwbl Americanaidd oedd trosgynoliaeth. Cafodd ddylanwad parhaol ar syniadau Americanaidd, yn enwedig ar awduron fel Nathaniel Hawthorne, Herman Melville a Walt Whitman.