Lowri ferch Gruffudd Fychan

(1358-1399)

Chwaer iau Owain Glyn Dŵr, Tywysog Cymru, oedd Lowri ferch Gruffudd Fychan (bl. tua diwedd y 1360au - tua'r 1430au?).

Lowri ferch Gruffudd Fychan
Ganwyd1360s Edit this on Wikidata
TadGruffudd Fychan II Edit this on Wikidata
MamElen ferch Thomas ap Llywelyn ab Owain ap Maredudd Edit this on Wikidata
PriodRobert Puleston Edit this on Wikidata
PlantAngharad Puleston, Madog Puleston, of Cristionydd, Eleanor|Elen Puleston, Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Einion ap Gruffudd of Cors Gedol, John Puleston, of Emral, Annes Puleston, of Emral Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Roedd Lowri yn ferch i Gruffudd Fychan II, etifedd llinach Powys, ac Elen ferch Tomos ap Llywelyn. Gan fod Gruffudd wedi marw yn 1369 mae'n debyg y ganed Lowri rywbryd yn y 1360au. Priododd hi Robert Puleston, uchelwr Cymreig o dras Normanaidd ac un o brif gynghreiriaid Glyn Dŵr yn y Gwrthryfel. Priodas wleidyddol oedd hyn.

Cawsont fab o'r enw John Puleston; cofnodir profi ei ewyllys yn 1444. Priododd John Angharad, un o ferched Gruffudd Hanmer, o'r un teulu â gwraig Glyn Dŵr, Margaret Hanmer. Roedd Angharad yn wyres i Gronw ap Tudur, un o deulu Tuduriaid Môn. Roedd mab arall, Roger Puleston (m. 1469), yn gynghreiriad sicr i Siasbar Tudur, Iarll Penfro, a gadwodd Gastell Dinbych iddo yn 1460 a 1461 yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.