Dinas a phorthladd yn Oblast Poltava yn nwyrain canolbarth Wcráin yw Lubny a saif ar Afon Sula. Sefydlwyd Lubny yn niwedd y 10g fel tref gaerog yn Rus'. Dinistriwyd gan y Mongolwyr ym 1239, a ni chafodd ei hailadeiladu nes yr 16g. O ganol yr 17g hyd at 1781, Lubny oedd un o ganolfannau milwrol Hetmanaeth y Cosaciaid, cyn iddi ddod dan reolaeth Ymerodraeth Rwsia. Prif ddiwydiannau'r ddinas yw tecstilau, dillad, dodrefn, ac adeiladu. Yn 2005 roedd ganddi boblogaeth o ryw 50,200.[1]

Lubny
Mathdinas bwysig i'r rhanbarth yn Wcráin, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
Poblogaeth45,786 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 988 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirQ4267743 Edit this on Wikidata
GwladBaner Wcráin Wcráin
Arwynebedd45.6 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr158 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.018564°N 32.98686°E Edit this on Wikidata
Cod post37500 Edit this on Wikidata
Map

Hanes yr Iddewon yn Lubny golygu

Ymsefydlodd yr Iddewon yn Lubny am y tro cyntaf yn nechrau'r 17g, dan nawdd y teulu Vixhnievietski. Buont yn amddiffyn y dref yn ystod gwrthryfel Pavlyuk (1637–38), a lladdwyd 200 ohonynt yn ystod cyflafanau Khmelnytsky (1648–49).[2]

Dychwelodd yr Iddewon i Lubny yn niwedd y 18g, a thyfodd eu niferoedd o 361 ym 1847 i 3,006 (30% o holl boblogaeth y dref) erbyn 1897. Bu'r llenor Iddew-Almaeneg o fri Sholem Aleichem yn "rabi swyddogol", sef cofiadur y gymuned Iddewig, yn Lubny o 1880 i 1882. Cafodd rhai o gartrefi a siopau'r Iddewon eu hanrheithio yn ystod terfysgoedd ym 1881. Yn nechrau'r 20g, roedd cyfleusterau Iddewon Lubny yn cynnwys ysgol Talmwd Tora, ysgol gynradd Iddew-Almaeneg, llyfrgell, a banc, ac yn sgil Chwyldro Rwsia yn Hydref 1917 roedd holl aelodau'r cyngor cymunedol yn Seioniaid. Yn y 1920au roedd 100 o Iddewon Lubny yn gweithio yn y ffatri baco, eraill yn y melinau blawd, a 1,200 yn grefftwyr.[2]

Ym 1939 roedd 2,833 o Iddewon yn Lubny, 10.5% o'r holl boblogaeth. Meddiannwyd Lubny gan yr Almaen Natsïaidd ar 13 Medi 1941, ac ar 16 Hydref 1941 llofruddiwyd 4,500 o Iddewon ar gyrion y dref. Llofruddiwyd yr Iddewon oedd yn weddill yn Ebrill a Mai 1942. Ym 1959, dim ond rhyw 600 o Iddewon oedd yn byw yn Lubny (2% o'r holl boblogaeth), a rhyw 250 ym 1970. Allfudodd y mwyafrif o'r rheiny yn y 1990au.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Lubny. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Mehefin 2021.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "Lubny", Encyclopaedia Judaica. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 5 Mehefin 2021.