Yr Hetmanaeth

(Ailgyfeiriad o Hetmanaeth)

Gwladwriaeth Gosacaidd a fodolai yn Nwyrain Ewrop o 1648 i 1764 oedd yr Hetmanaeth (Wcreineg: Гетьманщина, Hetmanshchyna) a fu dan brotectoriaeth Ymerodraeth Rwsia am y rhan fwyaf o'i hanes.

Yr Hetmanaeth
Map o'r Hetmanaeth yn ei flynyddoedd cynnar, o 1649 i 1654.
Mathgwladwriaeth, vassal and tributary state of the Ottoman Empire, gwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasChyhyryn, Baturyn, Hlukhiv, Hadiach Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,500,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
GwladBaner Ymerodraeth Rwsia Ymerodraeth Rwsia
Arwynebedd200,000 km² Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCossack Rada Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Hetman of Zaporizhian Host Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethKirill Razumovsky Edit this on Wikidata
Crefydd/EnwadEglwys Uniongred Rwsia Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Gwrthryfel Khmelnytsky (1648–57) golygu

Sefydlwyd yr Hetmanaeth yn sgil Gwrthryfel Khmelnytsky (1648–57), a welai Sich Zaporizhzhia—prif lu'r Cosaciaid Wcreinaidd—yn brwydro'n erbyn y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd. Etholwyd arweinydd y gwrthryfel, Bohdan Khmelnytsky, yn Hetman—sef bennaeth ar—Lu Zaporizhzhia gan gyngor milwrol yn Ionawr 1648. I gychwyn, estynnodd tiriogaeth yr Hetmanaeth dros foifodaethau Kyiv, Chernihiv, a Bratslav yn ogystal â rhannau o Volhyn a Belarws (Rwsia Wen).[1] Mewn trafodaethau yn Pereiaslav yn Chwefror 1649, datganodd Khmelnytsky i'r ddirprwyaeth Bwylaidd yr oedd yn meddu ar awdurdod dros Wcráin oll gan gynnwys rhanbarthau Podilia a Volhyn, hyd at ddinasoedd Lviv, Chełm, ac Halych yn y gorllewin. Yn sgil Cytundeb Pereiaslav (1654), daeth yr Hetmanaeth dan benarglwyddiaeth Tsaraeth Rwsia.

Y Distryw (1657–87) golygu

Yn sgil marwolaeth Khmelnytsky, cychwynnodd y cyfnod cythrublus yn hanes Wcráin a elwir "y Distryw". Cystadleuodd gwahanol hetmaniaid ar naill ochr Afon Dnieper, gyda chefnogaeth y Rwsiaid a'r Pwyliaid, dros reolaeth tiroedd Cosaciaid Zaporizhzhia, ac ymunodd yr Ymerodraeth Otomanaidd hefyd â'r ffrae gan geisio ennill tiriogaeth yn Wcráin. Ym 1663, rhennid yr Hetmanaeth yn ddwy ar hyd y Dnieper: Glan Dde Wcráin i'r gorllewin, a ddychwelodd dan reolaeth y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, a Glan Chwith Wcráin i ddwyrain yr afon a barodd dan reolaeth Rwsia.[1] Cadarnhawyd y rhaniad hwnnw gan Gadoediad Andrusovo ym 1667 a'r "Heddwch Tragwyddol" rhwng Rwsia a'r Gymanwlad ym 1686, a daeth yr Hetmanaeth i bob pwrpas yn gyfystyr â Glan Chwith Wcráin—neu "Rwsia Fach" fel y'i elwid mewn dogfennau swyddogol Rwseg.

Mazepa a Skoropadsky (1687–1722) golygu

Ym 1687 dyrchafwyd Ivan Mazepa yn Hetman, dan gychwyn ar oes ffyniannus i'r Hetmanaeth. Enillodd Mazepa ffafr y Tsar Pedr I, a llwyddodd i sicrhau ymreolaeth am ddeng mlynedd, ac aeth ati i adeiladu nifer o eglwysi, llyfrgelloedd, ac ysgolion yn ei diriogaeth. Fodd bynnag, byddai Pedr yn codi gwrychyn y Cosaciaid trwy orfodi dyletswyddau newydd arnynt a gadael ei fyddin i gamdrin y werin bobl yn Wcráin. O ganlyniad i'r pechodau hyn—yn ogystal â'i anniddigrwydd oherwydd methiant ei ymdrechion i uno Glan Dde Wcráin â'r Lan Chwith—cynllwyniodd Mazepa i gefnogi Ymerodraeth Sweden yn erbyn Rwsia wedi cychwyn Rhyfel Mawr y Gogledd ym 1700.

Yn Hydref 1708, datgelodd Mazepa o'r diwedd ei gynllwynion gan arwain pum mil o'i Gosaciaid i ymuno â byddin Sweden wrth iddi oresgyn Wcráin. Serch, methiant a fu ymdrechion Mazepa i gynnau gwrthryfel ymhlith y werin Wcreinaidd yn erbyn Rwsia—heb sôn am y Cosaciaid Rwsiaidd a Thatariaid y Crimea, y rheiny yr oedd yn gobeithio ennill i'w achos—a bu'r nifer fwyaf o Gosaciaid Zaporizhzhia yn ffyddlon i'r Tsar. Disodlwyd Mazepa yn Hetman Llu Zaporizhzhia gan Ivan Skoropadsky. Ar 8 Gorffennaf 1709, byddai lluoedd Rwsia, gyda'r Cosaciaid ffyddlon dan arweiniad Skoropadsky, yn drech na Sweden a Chosaciaid Mazepa ym Mrwydr Poltava, yr ymladdfa fwyaf a phwysicaf yn y rhyfel. Drannoeth y drin, ffoes yr Hetman Mazepa a Karl XII, brenin Sweden, gyda rhyw fil a hanner o'u milwyr, i Dywysogaeth Moldafia, dan dra-arglwyddiaeth yr Otomaniaid.

Cyfnod y Colegiwm (1722–27) golygu

Wedi diwedd Rhyfel Mawr y Gogledd ym 1721, ymdrechai Ymerodraeth Rwsia yn fwyfwy i reoli Cosaciaid Zaporizhzhia a chyfyngu ar rym yr Hetmanaeth. Yn ôl gorchymyn (ukase) gan y Tsar Pedr I ar 16 Mai [27 Mai yn yr Hen Ddull] 1722, sefydlwyd Colegiwm Rwsia Fechan, corff gweinyddol newydd i oruchwylio'r hetman a'i swyddogion a'r drefn gatrodol. Yn sgil marwolaeth Skoropadsky yng Ngorffennaf 1722, cipiwyd grymoedd yr hetman gan y colegiwm, a fyddai'n rheoli gweinyddiaeth, barnwriaeth, a thrysorlys Wcráin am bum mlynedd. O ganlyniad i wrthwynebiad y starshyna, prif swyddogion milwrol a gwleidyddol y Cosaciaid, addawodd Pedr i ddiddymu'r colegiwm, a'r hwnnw a wnaeth ar 29 Medi 1727.

Yr hetmaniaid olaf (1727–64) golygu

Am ddeugain mlynedd bron wedi diddymu'r colegiwm, adenillodd yr Hetmanaeth ei ymreolaeth mewn materion gweinyddol a barnwrol. Enillodd yr Hetman Kyrylo Rozumovsky (1750–64) ffafr y llys ymerodrol, a llwyddodd felly i adfer ymreolaeth ei wlad i'r honno a oedd yng nghyfnod Mazepa.[2]

Diddymu (1764–82) golygu

Diddymwyd yr Hetmanaeth trwy orchymyn (ukase) gan Catrin II, Ymerodres Rwsia, ar 10 Tachwedd [21 Tachwedd yn yr Hen Ddull] 1764, a daeth tiriogaeth Cosaciaid Zaporizhzhia dan awdurdod Llywodraethiaeth Rwsia Fechan. Diddymwyd pob un olaf o olion gweinyddol a threfn gatrodol yr Hetmanaeth ym 1782 pryd sefydlwyd rhaglawiaethau Kyiv, Chernihiv, a Novhorod-Siverskyi.[1]

Llywodraeth golygu

Yn ôl traddodiad Cosaciaid Zaporizhzhia, câi'r hetman a'i swyddogion eu hethol gan gyngor milwrol. Bu'r Hetmanaeth yn meddu ar drefnau treth, cyfreithiol, ac ariannol ei hunan, ond ym 1669 gwaharddwyd cysylltiadau diplomyddol â gwledydd eraill gan lywodraeth Rwsia.[1]

Rhennid yr Hetmanaeth yn gatrodau a chwmnïau, unedau gweinyddol a thiriogaethol yn ogystal â milwrol.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), tt. 211–2.
  2. (Saesneg) Zenon Kohut, "Hetmanate (Ukraine)" yn Europe, 1450 to 1789: Encyclopedia of the Early Modern World. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 27 Medi 2022.

Darllen pellach golygu

  • George Gajecky, The Cossack Administration of the Hetmanate, dwy gyfrol (Cambridge, Massachusetts: Harvard University Press, 1978).
  • Zenon E. Kohut, Russian Centralism and Ukrainian Autonom: Imperial Absorption of the Hetmanate, 1760s–1830s (Cambridge, Massachusetts: Harvard University Press, 1988).
  • Orest Subtelny, The Mazepists: Ukrainia Separatism in the Early Eighteenth Century (Efrog Newydd: Columbia University Press, 1981).