Luciano Pavarotti
Canwr opera Eidalaidd oedd Luciano Pavarotti (12 Hydref 1935 – 6 Medi 2007).
Luciano Pavarotti | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
12 Hydref 1935 ![]() Modena ![]() |
Bu farw |
6 Medi 2007 ![]() Achos: canser y pancreas ![]() Modena ![]() |
Label recordio |
Decca Records ![]() |
Dinasyddiaeth |
Yr Eidal, Brenhiniaeth yr Eidal ![]() |
Galwedigaeth |
canwr opera, actor ffilm ![]() |
Arddull |
opera ![]() |
Math o lais |
Q5492408 ![]() |
Gwobr/au |
Officier de la Légion d'honneur, Gwobr Grammy Legend, MusiCares Person of the Year, Nansen Refugee Award, Anrhydedd y Kennedy Center, Commander of the Order of Cultural Merit, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Cadlywydd Urdd Teilyngdod Weriniaeth yr Eidal, dinesydd anrhydeddus Sarajevo ![]() |
Gwefan |
http://www.lucianopavarotti.com/ ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Ganed Luciano Pavarotti ar gyrion Modena yng ngogledd yr Eidal. Roedd y teulu yn dlawd, ond roedd ei dad yn ganwr dawnus ac yn berchen recordiau o ganu tenoriaid megis Beniamino Gigli, Giovanni Martinelli, Tito Schipa a Enrico Caruso. Bu'n canu yng nghôr yr eglwys leol, ac yn 1954 dechreuodd gymeryd gwersi cerddorol. Yn 1955 roedd yn aelod o gôr lleol o Modena a ddaeth i gystadlu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Enillodd y côr, a rhoddodd hyn ysgogiad iddo droi yn ganwr proffesiynol. Rhoddodd ei berfformiad opera cyntaf ar 29 Ebrill 1961 fel Rodolfo yn La bohème, yn Reggio Emilia.
Aeth ymlaen i ddod yn un o ganwyr mwyaf adnabyddus y byd. Daeth yn enwog ymhell tu hwnt i fyd opera, yn enwedig wedi Cwpan y Byd Pêl-droed 1990 a gynhaliwyd yn yr Eidal. Pavarotti yn canu aria Giacomo Puccini, "Nessun Dorma" o'r opera Turandot oedd thema'r gystadleuaeth, a chynhaliodd gyngerdd "Y Tri Tenor" yn Rhufain gyda Plácido Domingo a José Carreras.