Anarchydd o Eidalwr oedd Luigi Galleani (12 Awst 18614 Tachwedd 1931) oedd yn byw yn yr Unol Daleithiau o 1901 i 1919 ac yno yn siarad o blaid propaganda'r weithred a defnyddio trais i ddymchwel y llywodraeth.

Luigi Galleani
Ganwyd12 Awst 1861 Edit this on Wikidata
Vercelli Edit this on Wikidata
Bu farw4 Tachwedd 1931 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Caprigliola Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Mudiadinsurrectionary anarchism, mutual aid Edit this on Wikidata

Ganwyd yn ninas Vercelli yn rhanbarth Piemonte, yr Eidal. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Torino, ond oherwydd ei syniadau anarchaidd fe wnaeth ffoi'r wlad ym 1880 cyn iddo ennill ei radd. Treuliodd pymtheg mlynedd yn Ffrainc, a chyfnod byr yn y Swistir cyn iddo gael ei ddanfon yn ôl i'r Eidal. Cafodd ei arestio a'i garcharu ar ynys Pantelleria ym 1895, ac yno fe briododd a chafodd pedwar plentyn. Llwyddodd i ddianc o'r ynys i'r Aifft ym 1900, ac oddi yno i Loegr a'r Unol Daleithiau. Ymsefydlodd yn New Jersey a golygodd y cylchgrawn La Questione Sociale. Cafodd ei gyhuddo ym 1903 o annog terfysg yn ystod streic, ac fe wnaeth ffoi i Ganada. Y flwyddyn wedyn, dychwelodd dros y ffin i Vermont a sefydlodd y cylchlythyr Cronaca Sovversiva.[1]

Cafodd ei ddal ym 1906 a'i roi ar brawf, ond ei ryddhau gan nad oedd y rheithgor yn cytuno ar y farn. Symudod i Lynn, Massachusetts ym 1912.[2] Ysgrifennodd lyfr ar wneud bomiau deinameit, ac anogodd ei ddilynwyr i wrthryfela'n erbyn yr awdurdodau drwy ddulliau treisgar. Cychwynnodd gyfres o ymosodiadau yn ardal Boston yn y flwyddyn 1916, er na chafodd llawer o bobl eu lladd. Ar noson 2 Mehefin 1919, cafodd sawl dinas ar draws y wlad ei thargedu gan fomiau'r anarchwyr. Ymatebodd yr awdurdodau yn llym: alltudiwyd Galleani yn ôl i'r Eidal, a chafodd mewnfudwyr radicalaidd eraill eu harestio yn ystod Cyrchoedd Palmer.

Bu farw yn 70 oed o drawiad ar y galon.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Biography: Luigi Galleani, Anarchy Archives. Adalwyd ar 26 Awst 2017.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Chronology of Luigi Galleani, Anarchy Archives. Adalwyd ar 26 Awst 2017.