Wittenberg
Tref yn yr Almaen yw Wittenberg, neu Lutherstadt Wittenberg yn swyddogol. Mae Wittenberg wedi'i lleoli ar Afon Elbe, i'r gogledd o Leipzig ac i'r de-orllewin o Berlin. Yn 2008, roedd gan y dref boblogaeth o 48,501.
Math | bwrdeistref trefol yr Almaen, dinas Luther, prif ddinas ranbarthol, residenz |
---|---|
Poblogaeth | 45,588 |
Pennaeth llywodraeth | Torsten Zugehör |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wittenberg, Q1787573, Landkreis Wittenberg (1815–1952) |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 240.41 km² |
Uwch y môr | 67 metr |
Gerllaw | Afon Elbe |
Cyfesurynnau | 51.8671°N 12.6484°E |
Cod post | 06886 |
Pennaeth y Llywodraeth | Torsten Zugehör |
Mae Wittenburg yn enwog am ei chysylltiad agos â Martin Luther a'r Diwygiad Protestannaidd, ac am hynny y cafodd y dref ei hanrhydeddu fel Lutherstadt. Mae gan nifer o adeiladau Wittenburg gysylltiad â'r digwyddiadau, gan gynnwys rhan o'r mynachlog Awstinaidd ble roedd Luther yn byw, yn gyntaf fel mynach ac yn ddiweddarach fel perchennog gyda'i wraig Katharina von Bora a'u teulu. Mae'r mynachlog yn cael ei ystyried fel y prif amgueddfa sy'n coffáu bywyd a gwaith Luther.
Heddiw, mae Wittenburg yn ganolfan ddiwydiannol a chyrchfan boblogaidd i dwristiaid.