Dylan Ebenezer

Darlledwr o Gymro, sylwebydd chwaraeon

Darlledwr yw Dylan Ebenezer (ganwyd 1974) a ddaeth yn adnabyddus fel sylwebydd a chyflwynydd chwaraeon. Mae'n cyflwyno Sgorio ar S4C ers 2010 a Dros Frecwast, rhaglen foreol ar BBC Radio Cymru ers 2021.[1]

Dylan Ebenezer
Ganwyd1974 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd chwaraeon Edit this on Wikidata
TadLyn Ebenezer Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Magwyd Dylan Llywelyn Ebenezer yn Aberystwyth yn fab i Jên a Lyn Ebenezer. Mynychodd Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Penweddig.[2]

Cychwynodd fel gohebydd radio a sylwebydd gyda BBC Cymru cyn dod yn wyneb pêl-droed Cymru ar S4C. Ar BBC Radio Cymru mae wedi cyd-gyflwyno y rhaglen chwaraeon Camp Lawn ac wedi bod yn gapten tîm y cwis chwaraeon Cant y Cant.[3]

Bu'n cyflwyno ar y raglen bêl-droed wythnosol Sgorio ers 2010 ac mae wedi cyflwyno gemau pêl-droed rhyngwladol Cymru i'r Sianel.[4]

Cyflwynodd y sioe banel Gwefreiddiol am 5 cyfres ar S4C rhwng 2012 a 2015.[5] Roedd y sioe yn gyfuniad o gwis a sialensau wedi seilio ar fyd y cyfryngau newydd, y We a technoleg.[6]

Yn 2016 cyflwynodd rhaglen ddogfen gyda'i dad Lyn am hanes Gwrthryfel y Pasg. Yn Rebels Iwerddon 1916 aeth y ddau ar daith arbennig i olrhain yr hanes a straeon y rhai a aeth ymlaen i sicrhau annibynniaeth Iwerddon [7]

Ar ddiwedd 2020 cyhoeddwyd y byddai Dylan yn cyflwyno y sioe foreol newydd Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, enw newydd i raglen y Post Cyntaf. Roedd yn cymryd lle Dylan Jones ac yn cyflwyno o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 7 a 9 y bore gyda Kate Crockett. Darlledwyd y rhaglen gyntaf ar 25 Ionawr 2021.[8]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dylan Ebenezer yw cyflwynydd newydd rhaglen newyddion foreol Radio Cymru , Golwg360, 11 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd ar 15 Ionawr 2021.
  2. Ateb y Galw: Lyn Ebenezer , BBC Cymru Fyw, 13 Chwefror 2017. Cyrchwyd ar 15 Ionawr 2021.
  3. Don’t mind your Ps and Q: Dylan Ebenezer , WalesOnline, 31 Ionawr 2009. Cyrchwyd ar 15 Ionawr 2021.
  4.  Haka Entertainment.
  5. Gwefreiddiol
  6. Delfryd yn dod yn wir i Dylan. , Daily Post, 28 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd ar 15 Rhagfyr 2021.
  7. Rebels Iwerddon 1916 gyda Lyn a Dylan Ebenezer .
  8. Cyflwynydd ac enw newydd i raglen newyddion Post Cyntaf , BBC Cymru Fyw, 11 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd ar 15 Ionawr 2021.

Dolenni allanol

golygu