Lynne Reid Banks
Awdur llyfrau o Loegr oedd Lynne Reid Banks (31 Gorffennaf 1929 – 4 Ebrill 2024), gan gynnwys The L-Shaped Room, a gyhoeddwyd yn 1960; roedd y llyfr yn werthwr gorau ar unwaith a pharhaol.[1] Yn ddiweddarach fe'i gwnaed yn ffilm ac arweiniodd at ddau ddilyniant, The Backward Shadow a Two is Lonely . Ysgrifennodd Banks hefyd nofel i plant The Indian in the Cupboard, sydd wedi gwerthu dros 15 miliwn o gopïau ac wedi'i haddasu'n llwyddiannus i ffilm[2] a gofiant i'r teulu Brontë, dan y teitl Dark Quartet.
Lynne Reid Banks | |
---|---|
Llais | Lynne reid banks bookclub b00sl3y1.flac |
Ganwyd | 31 Gorffennaf 1929 Llundain, Barnes |
Bu farw | 4 Ebrill 2024 Surrey |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, gohebydd, actor, actor llwyfan |
Adnabyddus am | The Indian in the Cupboard, The L-Shaped Room |
Mam | Muriel Alexander |
Priod | Chaim Stephenson |
Gwefan | http://lynnereidbanks.com |
Cafodd Banks ei geni yn Barnes, Llundain, unig blentyn y meddyg James a'r actores Muriel Reid Banks.[1][3][4] Symudwyd hi i Saskatoon, Saskatchewan, Canada yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a dychwelodd ar ôl i'r rhyfel ddod i ben. [1] Cafodd ei addysg yn Ysgol St Teresa Effingham yn Surrey. Roedd Banks yn actores, yn mynychu ysgol ddrama, ac yn 1955 dechreuodd weithio fel newyddiadurwr teledu yn ITN, un o'r merched cyntaf i wneud hynny.[1][5] [6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Watts, Janet (2024-04-05). "Lynne Reid Banks obituary". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-04-06.
- ↑ "Home". lynnereidbanks.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-10. Cyrchwyd 2024-04-06.
- ↑ Chace, Rebecca (5 Ebrill 2024). "Lynne Reid Banks, Author of 'The Indian in the Cupboard,' Dies at 94". The New York Times. Cyrchwyd 5 Ebrill 2024.
- ↑ Kenrick, Vivienne (2006-11-04). "Lynne Reid Banks". The Japan Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
- ↑ Banks, Lynne Reid (14 Awst 2011). "TV news in the 50s was more thrilling than The Hour" (yn Saesneg). The Guardian. Cyrchwyd 29 Ionawr 2023.
- ↑ Bushby, Helen; Lindrea, Victoria (2024-04-05). "Lynne Reid Banks: The Indian in the Cupboard author dies aged 94". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-04-06.