ITN
Mae Independent Television News neu ITN yn ddarparwr newyddion pwysig sydd â phencadlys yn y Deyrnas Unedig. Chwe busnes allweddol sydd ganddo: ITN News, ITN Source, ITN On, ITN Factual, Visual Voodoo ac ITN Consulting.
Enghraifft o'r canlynol | cwmni cynhyrchu teledu |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1955 |
Perchennog | ITV plc, Daily Mail and General Trust, Thomson Reuters, UBM plc |
Sylfaenydd | Independent Television Authority |
Pencadlys | 200 Gray's Inn Road |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Camden |
Gwefan | https://www.itn.co.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae ITN yn darparu gwybodaeth ar gyfer ITV, Channel 4, More 4, PBS, 300 o orsafoedd radio masnachol trwy IRN (Independent Radio News), pob cwmni ffôn symudol, Google, MSN a nifer o gynhyrchwyr ffilmiau ac ymchwilwyr ledled y byd. Mae adrannau ITN hefyd yn cynhyrchu llawer o raglenni ar gyfer darlledwyr yn y Deurnas Unedig, Unol Daleithiau yr America ac Ewrop.
Ynghyd â'i bencadlys yn Llundain, mae gan ITN swyddfeydd yn Bangkok, Beijing, Berlin, Brwsel, Jerwsalem, Johannesburg, Los Angeles, Moscfa, Efrog Newydd, Paris, Sydney a Washington, D.C.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan ITN