Môr Alboran yw'r rhan mwyaf orllewinol o Fôr y Canoldir, yn gorwedd rhwng Penrhyn Iberia a gogledd Affrica. Mae Culfor Gibraltar, sy'n gorwedd ar ben gorllewinol Môr Alboran, yn cysylltu Môr y Canoldir gyda'r Cefnfor Iwerydd.

Môr Alboran
Mathmôr ymylon Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlIsla de Alborán Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolWestern Mediterranean Edit this on Wikidata
GwladAlgeria, Sbaen, y Deyrnas Unedig, Moroco Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36°N 3°W Edit this on Wikidata
Map
Ddelwedd lloeren sy'n canolbwyntio ar Môr Alboran. I'r  chwith mae Penrhyn Iberia, ac i'r die, gogledd Affrica.

Daearyddiaeth

golygu

Ei ddyfnder cyfartalog yw 1,461 troedfedd (445 m) ac uchafswm y dyfnder yn 4,920 troedfedd (1,500 m).

Mae'r Sefydliad Hydrograffig Rhyngwladol (International Hydrographic Organization) yn diffinio terfynau Môr Alboran fel a ganlyn:[1]

Yn y Gorllewin. Terfyn Dwyreiniol  Culver Gibraltar: llinell  yn ymuno o flaen  (Pwynt Europa) o Cap Gibraltar yn Ewrop i flaen y Península de Almina o Ceuta yn Affrica (35°54′N 5°18′W / 35.900°N 5.300°W / 35.900; -5.300).

Yn y Dwyrain. Llinell syth oddi wrth Cabo de Gata yn Andalusia yn Ewrop i Pac Fegalo yn Algeria yn Affrica (35°36′N 1°12′W / 35.600°N 1.200°W / 35.600; -1.200).

Mae nifer o ynysoedd bach yn y môr, gan gynnwys un o'r enw Isla de Alborán. Mae'r rhan fwyaf, hyd yn oed gan gynnwys y rhai sy'n agos i lannau Moroco, yn cael eu rheoli gan Sbaen.

Daeareg

golygu

Mae parth Alboran, sef gwely'r môr o dan Môr Alboran (a elwir y parthau mewnol) ynghyd â'r mynyddoedd cyfagos (a elwir yn y parthau allanol; Arch Gibraltar a Mynyddoedd yr Atlas), wedi eu gwneud yn bennaf o gramen gyfandirol ac mae'n nodi pen gorllewinol pellaf y tirweddau a gafodd eu llyncu mewn islithriad rhwng y platiau tectonig Affricanaidd ac Ewrasiaidd  pan gaeodd y Môr Tethys. Mae  daeargrynfeydd ar ddyfnder o tua 600 km (370 mi) yn dangos bod islithrio yn parhau, a bod rhyngweithio cymhleth rhwng y lisothffer a'r mantell yn ffurfio'r rhanbarth o hyd.[2] Mae'r parthau mewl wedi eu creu o griegiau a wnaed yn ystod y Palesöig Hwyr i'r Triasig a gafodd eu pentyrru i fyny yn ystod y cyfnod trydyddol cenosöig ac mae wedi ymestyn ers dechrau'r Mïosen/Miocene.[3]

Mae gwely'r môr yn forffolegol gymhleth gyda nifer o is-basnau, gan gynnwys tri phrif is-basnau a enwir y Gorllewin, Dwyrain, a Basnau De'r Alboran, yn o gystal a chribau, a môr fynyddoedd. Y strwythur mwyaf amlwg ym Môr Alboran yw Esgair Alboran, sy'n 180 km (110 milltir) o hyd ac sy'n ymestyn i'r de-orllewin o ynys folcanig Ynys Alborán.[4]

Eigioneg

golygu

Mae current arwynebol ym Môr Alboran, yn cael eu dylanwadu gan y prifwyntoedd, mae'nt yn llifo tua'r dwyrain, gan ddod â dŵr o'r Iwerydd i Fôr y Canoldir; mae cerrynt dyfnach  yn llifo tua'r gorllewin, yn cario dŵr hallt Môr y Canoldir  tros Sil Gibraltar i mewn i'r Iwerydd. Felly mae yno gylchrediad fertigol cylchdröol  a elwir hefyd yn gyre (amdroad), ym Môr Alboran o ganlyniad i'r gyfnewidiad hyn o ddŵr.[5]

Ecoleg

golygu
 
Map o Fôr Alboran

Mae'r Môr Alboran yn barth pontio rhwng cefnfor a môr, sy'n cynnwys cymysgedd o rywogaethau Môr y Canoldir a chefnfor yr Iwerydd. Mae'r Môr  Alboran yn gynefin i'r boblogaeth fwyaf o ddolffiniaid trwyn potel yng ngorllewin Môr y Canoldir, yn gynefin i'r boblogaeth olaf o lamhidyddion yr harbwr yn yr un ardal, ac yw'r tiroedd bwydo pwysicaf ar gyfer crwbanod môr pendew yn Ewrop. Môr Alboran hefyd yn cynnal  pysgodfeydd masnachol pwysig, gan gynnwys sardinau a'r cleddbysgodyn. Yn 2003, codwyd pryderon gan y World Wildlife Fund  am y peryglon o'r defnydd eang o nofrwydi wrth bysgota sy'n peryglu poblogaethau o dolffiniaid, crwbanod, ac anifeiliaid morol eraill.

Mae bwa o fynyddoedd, a elwir yn y Gibraltar Arc, yn amgylchynu  gogledd,  gorllewin, ac ochr dde  y Môr Alboran. Mae'r  Gibraltar Arc yn rhan o Gadwyn Fynyddoedd y Baetic Cordillera  yn ne Sbaen ac o Mynyddoedd Rif ym Moroco. Mae'r mynyddoedd hyn, sy'n adnabyddus i ecolegwyr fel cymhlyg Baetic-Rifan, yn cynnwys un fannau pwysicaf ym Môr y Canoldir o ran bioamrywiaeth; ac fel Môr Alboran, mae'r cyhmlyg Baetic-Rifan yn cynrychioli pontio rhwng parthau ecolegol (Macaronesian) Môr y Canoldir a chefnfor yr Iwerydd. Mae dylanwad cymedroli'r Iwerydd wedi caniatáu llawer o rywogaethau creiriol  yn y Baetic a mynyddoedd Rif i oroesi'r amrywiadau hinsoddol yn yr ychydig filiwn o flynyddoedd dweuthaf sydd wedi achosi iddynt  ddiflannu mewn mannau eraill o gwmpas y basn Môr y Canoldir.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Limits of Oceans and Seas, 3rd edition" (PDF). International Hydrographic Organization. 1953. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 8 October 2011. Cyrchwyd 7 February 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Alpert et al. 2013, Introduction, pp. 4265–4266
  3. Iribarren et al. 2007, Introduction, p. 98
  4. Comas et al. 1999, t. 559
  5. C. Michael Hogan. 2011.