MEU Cymru
Talfyriad o Micro Electronics Unit, Cymru oedd MEU Cymru (neu 'Uned Addysg Ficroelectronig Cymru') a sefydlwyd yn 1986 gan Cyd-bwyllgor Addysg Cymru gyda chymorth llywodraeth Prydain ac awdurdodau addysg lleol Cymru. Ei nod oedd "hyrwyddo a chynnal defnydd effeithiol technoleg gwybodaeth mewn addysg yng Nghymru, yn y Gymraeg a'r Saesneg".[1] Meurig Williams oedd Cyfarwyddwr MEU Cymru ac arferai dynnu coes drwy ddweud fod MEU wedi tarddu o'r gair 'Meu-rig'.
Math | sefydliad anllywodraethol |
---|---|
Sefydlwyd | 1986 |
Pencadlys | Caerdydd |
Rhiant-gwmni | CBAC |
Gwefan | http://www.meucymru.co.uk/newprods/cymraeg/cysgliad.html |
Ers y dechrau, mae wedi cynhyrchu ystod eang o feddalwedd a deunyddiau cynhaliol i ysgolion ac yn ddiweddarach, ffontiau ac adnoddau Celtaidd, digidol. Roedd y corff hefyd yn gyfrifol am drefnu cyrsiau a chynadleddau i hyrwyddo datblygiadau newydd wrth ddefnyddio technoleg gwybodaeth yn yr ysgolion. Yn 1995 cyhoeddodd Meurig Williams fod cyfrifiadur Cymraeg cyntaf y byd newydd ei gynhyrchu gan MEU Cymru a Chyfrifiaduron Acorn, prif gyflenwyr cyfrifiaduron i ysgolion gwledydd Prydain ar y pryd.
Mae Meurig Williams yn parhau i gynnal y wefan dan yr enw 'MEU Cymru' ac i werthu meddalwedd 3ydd parti (Cysgliad, Cysill, ffontiau Celtaidd ayb), ond nid oes cysylltiad bellach gyda CBAC.
Cynnyrch
golygu- Geiriadur Termau Cyfrifiadureg: ISBN 10: 1870055519 ISBN 13: 9781870055512 [2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Neges gan Dafydd Tomos ar WELSH-L; 24.4.95; adalwyd 2 Mai 2018.
- ↑ Arwerthwr llyfrau; adalwyd 2 Mai 2018.