WELSH-L

rhestr drafod drwy e-bost

Roedd WELSH-L yn rhestr drafod drwy e-bost a oedd yn cael ei rhedeg yn wreiddiol gan Goleg Prifysgol Dulyn a gychwynwyd yn Nhachwedd 1992 ac a ddaeth i ben yn Nhachwedd 2012.

WELSH-L
Enghraifft o'r canlynolmeddalwedd danfon ebyst Edit this on Wikidata
Daeth i ben1 Tachwedd 2012 Edit this on Wikidata
IaithCymraeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddiTachwedd 1992 Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluTachwedd 1992 Edit this on Wikidata

Roedd nifer o restrau trafod academaidd ar gael ar rwydweithiau yn y 1990au cynnar o fewn prifysgolion. Roedd y rhwydweithiau academaidd yn bodoli cyn y Rhyngrwyd ac felly'n defnyddio nifer o dechnolegau gwahanol anghydnaws. Safonwyd hyn yn raddol gyda phrotocolau'r Rhyngrwyd (TCP/IP).

Cafodd rhestr CELTIC-L ei greu yn Mai 1991 i drafod diwylliant Celtaidd a datblygiad naturiol o hyn oedd WELSH-L a grewyd 20 mis yn ddiweddarach. Er ei bod yn rhestr ddwyieithog, roedd yna fwriad amlwg i greu fforwm ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.

Mae'r rhestr yn dal i fodoli ond prin yn cael ei ddefnyddio gyda dyfodiad y we.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. tiki-toki.com; adalwyd 1 Mai 2018.
  • Daw rhan o destun yr erthygl hon allan o 'Hanes y We Gymraeg' ar wefan tiki-toki.com (Rhodri ap Dyfrig), sef llinell amser o hanes y we a'r rhyngrwyd Gymraeg. Awdur y darn gwreiddiol oedd Dafydd Tomos.