Macbeth (drama)
Un o ddramau mwyaf adnabyddus y dramodydd William Shakespeare yw Macbeth. Sylfaenodd Shakespeare cynllun y ddrama ar hanes Macbeth, brenin yr Alban gan Raphael Holinshed a'r athronydd Albanaidd Hector Boece, er nad yw'r digwyddiadau yn y ddrama yn cyfateb i'r hyn a wyddir am y Macbeth hanesyddol.
Delwedd:Sir Nathaniel Dance-Holland The Daggers Being Given to Lady Macbeth nd.jpg, First-page-first-folio-macbeth.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith dramatig |
---|---|
Awdur | William Shakespeare |
Iaith | Saesneg Modern Cynnar, Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1623 |
Dechrau/Sefydlu | 1606 |
Genre | tragedy |
Cymeriadau | King Duncan, Macbeth, Lady Macbeth, Banquo, Macduff, Lady Macduff, Macduff's son, Siward, Earl of Northumbria, Young Siward, Fleance, Three Witches, Malcolm, Donalbain, Ross, Lennox, Angus, Menteith, Caithness, Seyton, Hecate, Captain, Murderer Ι, Murderer ΙΙ, Murderer ΙΙΙ, Porter, Doctor Ι, Doctor ΙI, Gentlewoman |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar ddechrau'r ddrama mae Macbeth yn uchel yn ffafr Duncan, Brenin yr Alban, wedi iddo orchfygu gwrthryfel yn ei erbyn. Wedi i Macbeth gyfarfod tair gwrach sy'n proffwydo y daw yn frenin, mae'n cael ei berswadio i lofruddio Duncan tra mae'r brenin yn aros gydag ef ac i gipio'r orsedd.
Ym myd actorion mae cyfeirio yn uniongyrchol at y ddrama wrth ei henw yn rhywbeth i'w osgoi am ei bod yn gysylltiedig ag ofergoel am aflwc: "y ddrama honno" yw'r term arferol.
Cyfieithiad i'r Gymraeg
golyguCyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf, cyfieithiad mydryddol gan Thomas Gwynn Jones, yn 1942. Ymddangosodd addasiad Cymraeg Gwyn Thomas ar fideo yn 1992.