Raphael Holinshed

ysgrifennwr, hanesydd (1529-1580)

Croniclydd o Sais oedd Raphael Holinshed (tua 1525 – tua 1580) sydd yn nodedig am ei hanesion o Loegr, yr Alban, ac Iwerddon a elwir Holinshed's Chronicles, a fyddai'n gloddfa o ddeunydd hanesyddol i Shakespeare a llenorion eraill yr oes.

Raphael Holinshed
Ganwyd1529 Edit this on Wikidata
Lloegr Edit this on Wikidata
Bu farw1580, 1573 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, hanesydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHolinshed's Chronicles Edit this on Wikidata

Hannodd ei deulu o Swydd Gaer, mae'n debyg, ac yn ôl yr hynafiaethydd Anthony Wood, gweinidog ydoedd. Ymsefydlodd yn Llundain ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Elisabeth, oddeutu 1560, a fe'i huriwyd fel cyfieithydd gan yr argraffwr Reginald Wolfe. Bwriadai Wolfe gyhoeddi gwaith hanes cyffredinol, ac yn sgil ei farwolaeth ym 1573 aeth Holinshed ati i gyfyngu ar destun arfaethedig y cywaith a chynllunio cyfres o groniclau o Brydain ac Iwerddon.

Cyhoeddwyd y Chronicles of England, Scotlande, and Irelande mewn dwy gyfrol ym 1577, wedi ei gyflawni gan Holinshed gyda chymorth awduron eraill. Dyma'r hanes di-dor, ac awdurdodol, cyntaf o Loegr yn iaith y werin.[1] Ysgrifennodd Holinshed The Historie of England ar ben ei hunan. William Harrison yw awdur The Description of England, a bu'r Description of Ireland yn gyfraniad o Richard Stanyhurst ac Edmund Campion. Cyfieithiadau ac addasiadau yw'r History of Ireland, History of Scotland, a Description of Scotland. Cafodd rhannau o'r History of Ireland eu sensro gan y Cyfrin Gyngor.

Ailargraffwyd y Chronicles, gyda diweddariad, ym 1587 dan olygyddiaeth John Hooker (ffugenw: Vowell), gyda rhannau gwleidyddol sensitif unwaith eto wedi eu dileu.[1] Dyma'r argraffiad poblogaidd a ddefnyddiwyd yn fynych gan William Shakespeare, Edmund Spenser, Samuel Daniel, a Christopher Marlowe. Hon oedd un o brif ffynonellau Shakespeare ar gyfer Macbeth, King Lear, a Cymbeline, a nifer o'i ddramâu hanes am frenhinoedd Lloegr.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 475.