Glyndyfrdwy

pentref yn Sir Ddinbych

Pentref yn Sir Ddinbych yw Glyndyfrdwy("Cymorth – Sain" ynganiad ); yn flaenorol yn yr hen Sir Feirionnydd. Saif ar y briffordd A5, hanner ffordd rhwng Corwen a Llangollen, ger Afon Dyfrdwy.

Glyndyfrdwy
Glyndyfrdwy railway station in 2007.jpg
Yr orsaf reilffordd leol
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9754°N 3.2679°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ149427 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auKen Skates (Llafur)
AS/auSimon Baynes (Ceidwadwyr)

Mae'r pentref yn enwog am ei gysylltiad ag Owain Glyn Dŵr, Arglwydd Glyndyfrdwy. Yn ei blastŷ yma y cyhoeddodd Owain ei hun yn Dywysog Cymru ar 16 Medi 1400. Dinistriwyd y tŷ gan fyddin Seisnig dan y tywysog Harri, yn ddiweddarach Harri V yn 1403, a dim ond olion y mwnt a'r sylfeini sydd i'w gweld heddiw. Gerllaw mae olion castell mwnt a beili o'r 12g.

Glyndyfrdwy o'r bryniau
Gweddillion mwnt a beili Owain Glyn Dŵr rhwng pentref Llidiart y Parc a Glyndyfrdwy

Yn Neuadd Goffa Owain Glyn Dŵr, gellir gweld copi o Lythyr Pennal a llythyr yn cadarnhau apwyntiad Canghellor Owain, Gruffydd Yonge, a brawd-yng-nghyfraith Owain, John Hanmer, fel llysgenhadon i frenin Ffrainc.

Crewyd plwyf Glyndyfrdwy yn 1866; cyn hynny roedd yn rhan o blwyf Corwen. Agorwyd gorsaf reilffordd yma yn 1866. Caewyd hi yn y 1960au, ond ail-agorwyd hi fel gorsaf ar Reilffordd Llangollen yn 1992.

Roedd R. J. Berwyn, un o arloeswyr Y Wladfa, yn enedigol o Lynceiriog.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[1][2]


CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014