Pentref bychan yng nghymuned Llangedwyn, Powys, Cymru, yw Sycharth. Saif tua 7 milltir i'r gorllewin o Groesoswallt. Mae'r pentref yn gorwedd yn nyffryn Afon Cynllaith, llednant o Afon Tanat.

Sycharth
Mathcastell mwnt a beili, safle archaeolegol, castell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlansilin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.824849°N 3.180549°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwDE020 Edit this on Wikidata

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[2]

Hanes golygu

Gwelir olion llys Owain Glyn Dŵr i'r gogledd o'r pentref.[3] Anfarwolwyd y lle gan gywydd[4] enwog Iolo Goch sy'n cynnwys y llinellau:

Anfynych iawn fu yno
weled na chlicied na chlo,
na phorthoriaeth ni wnaeth neb,
ni bydd eisiau budd oseb,
na gwall, na newyn, na gwarth,
na syched fyth yn Sycharth.

Roedd ganddo hefyd gastell tebyg yng Nglyndyfrdwy ger Corwen.

Perchnogaeth golygu

Yn 2023, ar ol i ddeiseb gyrraedd dros 10,000 o lofnodion, mi fydd Senedd Cymru yn trafod yr alwad i Sycharth ddod o dan berchnogaeth cyhoeddus.[5]


Oriel golygu

 
Yr olygfa o Lys Owain Glyn Dŵr yn Sycharth; gellir gweld baner y Ddraig Goch yn y pellter

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. Castell Sycharth ar Castlewales.com
  4. Gweler y cywydd cyfan ar 'Wicitestun': Owain Glyndŵr yn Sycharth[dolen marw]
  5. Owens, David (2023-09-12). "The future of Owain Glyndŵr's home is to be debated in the Senedd". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-13.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.